Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 37

37
1 Yr arch. 6 Y drugareddfa a’r ceriwbiaid. 10 Y bwrdd a’i lestri. 17 Y canhwyllbren, a’i lampau, a’i offer. 25 Allor yr arogldarth. 29 Olew yr eneiniad, a’r pêr‐arogldarth.
1A Besaleel a wnaeth #Pen 25:10yr arch o goed Sittim; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder. 2Ac a’i gwisgodd hi ag aur pur o fewn ac oddi allan; ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch. 3Ac a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar ei naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall. 4Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur. 5Ac a osododd y trosolion trwy’r modrwyau ar ystlysau yr arch, i ddwyn yr arch.
6Ac efe a wnaeth y #Pen 25:17drugareddfa o aur coeth; o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled. 7Ac efe a wnaeth ddau geriwb aur: o un dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt, ar ddau ben y drugareddfa; 8Un ceriwb #37:8 Neu, o’r pen.ar y pen o’r tu yma, a cheriwb arall ar y pen o’r tu arall: o’r drugareddfa y gwnaeth efe y ceriwbiaid, ar ei dau ben hi. 9A’r ceriwbiaid oeddynt, gan ledu esgyll tuag i fyny, a’u hesgyll yn gorchuddio’r drugareddfa, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: wynebau’r ceriwbiaid oedd tuag at y drugareddfa.
10Ac efe a wnaeth #Pen 25:23fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder. 11Ac a osododd aur pur drosto, ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch. 12Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o led llaw; ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch. 13Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur; ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai oedd yn ei bedwar troed. 14Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau, yn lle i’r trosolion i ddwyn y bwrdd. 15Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac a’u gwisgodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd. 16Efe a wnaeth hefyd y llestri fyddai ar y bwrdd, ei #Pen 25:29ddysglau ef, a’i lwyau, a’i ffiolau, a’i gaeadau i #37:16 Neu, dywallt.gau â hwynt, o aur pur.
17Ac efe a wnaeth #Pen 25:31ganhwyllbren o aur coeth; o un dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyllbren, ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, oedd o’r un. 18A chwech o geinciau yn myned allan o’i ystlysau: tair cainc o’r canhwyllbren o un ystlys, a thair cainc o’r canhwyllbren o’r ystlys arall. 19Tair padell ar waith almonau, cnap a blodeuyn oedd ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: yr un modd yr oedd ar y chwe chainc, y rhai oedd yn dyfod allan o’r canhwyllbren. 20Ac ar y canhwyllbren yr oedd pedair padell o waith almonau, ei gnapiau a’i flodau. 21A chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono; yn ôl y chwe chainc oedd yn dyfod allan ohono. 22Eu cnapiau a’u ceinciau oedd o’r un: y cwbl ohono ydoedd un dryll cyfan o aur coeth. 23Ac efe a wnaeth ei saith lamp ef, a’i efeiliau, a’i gafnau, o aur pur. 24O dalent o aur coeth y gwnaeth efe ef, a’i holl lestri.
25 # Pen 30:1 Gwnaeth hefyd allor yr arogldarth o goed Sittim: o gufydd ei hyd, a chufydd ei lled, yn bedeirongl: ac o ddau gufydd ei huchder: ei chyrn oedd o’r un. 26Ac efe a’i gwisgodd hi ag aur coeth, ei chaead, a’i hystlysau o amgylch, a’i chyrn; ac efe a wnaeth iddi goron o aur o amgylch. 27Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tan ei choron, i fyned am drosolion i’w dwyn arnynt. 28Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim; ac a’u gwisgodd hwynt ag aur.
29Ac efe a wnaeth #Pen 30:23, 34olew yr eneiniad sanctaidd, a’r arogl‐darth llysieuog pur, o waith yr apothecari.

Dewis Presennol:

Exodus 37: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda