Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 25

25
1 Pa beth sydd raid i’r Israeliaid ei offrwm tuag at wneuthur y babell. 10 Dull yr arch. 17 Y drugareddfa a’r ceriwbiaid. 23 Y bwrdd a’i arlwy. 31 Y canhwyllbren a’i offer.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Dywed wrth feibion Israel, #25:2 Heb. gymryd.am ddwyn ohonynt i mi #25:2 offrwm dyrchafael.offrwm: #Pen 35:5; 1 Cron 29:3, 5, 9, 14; Esra 2:68; 3:5; Neh 11:2gan bob gŵr ewyllysgar ei galon y cymerwch fy offrwm. 3A dyma yr offrwm a gymerwch ganddynt; aur, ac arian, a phres, 4A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a #25:4 sidan.lliain main, a blew geifr, 5A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim, 6#Pen 27:20Olew i’r goleuni, #Pen 30:23llysieuau i olew yr ennaint, ac i’r #Pen 30:34perarogl‐darth, 7Meini onics, a meini i’w gosod yn #Pen 28:4, 6yr effod, ac yn #Pen 28:15y ddwyfronneg. 8A gwnânt i mi gysegr; fel #Pen 29:45; 1 Bren 6:13; 2 Cor 6:16; Heb 3:6; Dat 21:3y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt. 9Yn ôl holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti, felly y gwnewch.
10A #Pen 37:1; Heb 9:4gwnânt arch o goed Sittim, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder. 11A gwisg hi ag aur coeth; o fewn ac oddi allan y gwisgi hi: a gwna arni goron o aur o amgylch. 12Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur, a dod ar ei phedair congl; dwy fodrwy ar un ystlys iddi, a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi. 13A gwna drosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur. 14A gosod y trosolion trwy’r modrwyau gan ystlys yr arch, i ddwyn yr arch arnynt. 15#1 Bren 8:8Ym modrwyau yr arch y bydd y trosolion; na symuder hwynt oddi wrthi. 16A dod yn yr arch #Pen 16:34; 31:18|EXO 31:18; Deut 10:2; 1 Bren 8:9; Heb 9:4y dystiolaeth a roddaf i ti. 17A #Pen 37:6gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled. 18A gwna ddau geriwb o aur; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwr y drugareddfa. 19Un ceriwb a wnei yn y naill ben, a’r ceriwb arall yn y pen arall: #25:19 Neu, o ddeunydd y drugareddfa.o’r drugareddfa ar ei dau ben hi y gwnewch y ceriwbiaid. 20A bydded #1 Bren 8:7; 1 Cron 28:18; Heb 9:5y ceriwbiaid yn lledu eu hesgyll i fyny, gan orchuddio’r drugareddfa â’u hesgyll, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: tua’r drugareddfa y bydd wynebau y ceriwbiaid. 21A dod y drugareddfa i fyny ar yr arch, ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti. 22A #Pen 29:42; 30:36|EXO 30:36; Lef 16:2; Num 7:89; 17:4mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau geriwb y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth, yr holl bethau a orchmynnwyf wrthyt i feibion Israel.
23A #Pen 37:10; 1 Bren 7:48; 2 Cron 4:8gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder. 24A gosod aur coeth drosto, a gwna iddo goron o aur o amgylch. 25A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch. 26A gwna iddo bedair modrwy o aur, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed. 27Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau, yn lleoedd i’r trosolion i ddwyn y bwrdd. 28A gwna y trosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur, fel y dyger y bwrdd arnynt. 29A gwna #Num 4:7ei ddysglau ef, a’i lwyau, a’i gaeadau, a’i ffiolau, y rhai y #25:29 Neu, gorchuddir.tywelltir â hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt. 30A dod ar y bwrdd #Lef 24:5y bara dangos gerbron fy wyneb yn wastadol.
31 # Pen 37:17 ; 1 Bren 7:49; Sech 4:2; Dat 1:12; 4:5Gwna hefyd ganhwyllbren: o aur pur yn gyfanwaith y gwneir y canhwyllbren; ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, a fyddant o’r un. 32A bydd chwe chainc yn dyfod allan o’i ystlysau; tair cainc o’r canhwyllbren o un tu, a thair cainc o’r canhwyllbren o’r tu arall. 33Tair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: felly ar y chwe chainc a fyddo yn dyfod allan o’r canhwyllbren. 34Ac yn y canhwyllbren y bydd pedair padell ar waith almonau, a’u cnapiau a’u blodau. 35A bydd cnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, yn ôl y chwe chainc a ddeuant o’r canhwyllbren. 36Eu cnapiau a’u ceinciau a fyddant o’r un: y cwbl fydd aur coeth o un cyfanwaith morthwyl. 37A thi a wnei ei saith lusern ef, ac #Pen 27:21; 30:8; Lef 24:3, 4a #25:37 Neu, gyfodi.oleui ei lusernau ef, fel #Num 8:2y goleuo efe ar gyfer ei wyneb. 38A bydded ei efeiliau a’i gafnau o aur coeth. 39O dalent o aur coeth y gwnei ef, a’r holl lestri hyn. 40Ond #Num 8:4; 1 Cron 28:11, 19; Act 7:44; Heb 8:5gwêl wneuthur yn ôl eu portread hwynt, a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

Dewis Presennol:

Exodus 25: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda