Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 11

11
1 Cenadwriaeth Duw at yr Israeliaid i fenthycio tlysau gan eu cymdogion. 4 Moses yn bygwth Pharo â marwolaeth y cyntaf‐anedig.
1A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Un pla eto a ddygaf ar Pharo, ac ar yr Aifft; wedi hynny efe a’ch gollwng chwi oddi yma: #Pen 12:31, 33, 39pan y’ch gollyngo, gan wthio efe a’ch gwthia chwi oddi yma yn gwbl. 2Dywed yn awr lle y clywo y bobl; a #Pen 3:22; 12:35benthycied pob gŵr gan ei gymydog, a phob gwraig gan ei chymdoges, ddodrefn arian, a #11:2 thlysau.dodrefn aur. 3A’r #Pen 12:36Arglwydd a roddodd i’r bobl ffafr yng ngolwg yr Eifftiaid: ac yr oedd Moses yn ŵr mawr iawn yng ngwlad yr Aifft, yng ngolwg gweision Pharo, ac yng ngolwg y bobl. 4Moses hefyd a ddywedodd, Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd; #Pen 12:29Ynghylch hanner nos yr af fi allan i ganol yr Aifft. 5A #Pen 12:12phob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft a fydd marw, o gyntaf‐anedig Pharo, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrngadair, hyd gyntaf‐anedig y wasanaethferch sydd ar ôl y felin; a phob cyntaf‐anedig o anifail. 6A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aifft, yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb. 7#Pen 8:22Ond yn erbyn neb o blant Israel #Jos 10:21ni symud ci ei dafod, ar ddyn nac anifail; fel y gwypoch fod yr Arglwydd yn gwneuthur rhagor rhwng yr Eifftiaid ac Israel. 8A’th #Pen 12:21, 33holl weision hyn a ddeuant i waered ataf fi, ac a ymgrymant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a’r holl bobl sydd ar dy ôl; ac wedi hynny yr af fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharo mewn #11:8 Heb. poethder dicllonedd.dicllonedd llidiog. 9A dywedodd #Pen 3:19; 10:1yr Arglwydd wrth Moses, Ni wrendy Pharo arnoch; fel #Pen 7:3yr amlhaer fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft. 10A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn gerbron Pharo: a’r #Pen 10:20Arglwydd a galedodd galon Pharo, fel na ollyngai efe feibion Israel allan o’i wlad.

Dewis Presennol:

Exodus 11: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda