Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 1

1
1 Plant Israel, ar ôl marwolaeth Joseff, yn amlhau. 8 Po mwyaf y mae y brenin newydd yn eu gorthrymu, mwyaf y maent yn amlhau. 15 Duwioldeb y bydwragedd, yn cadw yn fyw y plant gwryw. 22 Pharo yn gorchymyn bwrw y plant gwryw i’r afon.
1Dyma yn awr #Gen 46:8; Pen 6:14enwau meibion Israel, y rhai a ddaethant i’r Aifft: gyda Jacob y daethant, bob un a’i deulu. 2Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda, 3Issachar, Sabulon, a Benjamin, 4Dan, a Nafftali, Gad, ac Aser. 5A’r holl eneidiau a ddaethant allan o #1:5 Neu, lwynau, Heb. forddwyd.gorff Jacob oedd #Gen 46:27; Deut 10:22ddeng enaid a thrigain: a Joseff oedd yn yr Aifft. 6A #Gen 50:26Joseff a fu farw, a’i holl frodyr, a’r holl genhedlaeth honno.
7A #Deut 26:5; Act 7:17phlant Israel a hiliasant ac a gynyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth; a’r wlad a lanwyd ohonynt. 8Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aifft, yr hwn nid adnabuasai mo Joseff. 9Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl, Wele #Salm 105:24bobl plant Israel yn amlach, ac yn gryfach, na nyni. 10Deuwch, #Act 7:19gwnawn yn gall â hwynt; rhag amlhau ohonynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgysylltu ohonynt â’n caseion, a rhyfela i’n herbyn, a myned i fyny o’r wlad. 11Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid gwaith, #Gen 15:13i’w gorthrymu â’u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharo ddinasoedd trysorau, sef Pithom a Raamses. 12Ond fel y gorthryment hwynt, felly yr amlhaent, ac y cynyddent: a drwg oedd ganddynt oherwydd plant Israel. 13A’r Eifftiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed. 14A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy’r gwasanaeth caled, #Salm 81:6mewn clai, ac mewn priddfaen, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; a’u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed. 15A brenin yr Aifft a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebreësau; a ba rai enw un oedd Sipra, ac enw yr ail Pua: 16Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i’r Hebreësau, a gweled ohonoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw. 17Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ôl yr hyn a ddywedasai brenin yr Aifft wrthynt; eithr cadwasant y bechgyn yn fyw. 18Am hynny brenin yr Aifft a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw? 19#Edrych Jos 2:4, &c; 2 Sam 17:19, 20A’r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharo, Am nad yw yr Hebreësau fel yr Eifftesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig atynt. 20Am hynny y bu Duw dda wrth y bydwragedd: a’r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn. 21Ac oherwydd i’r bydwragedd ofni Duw, yntau #Edrych 1 Sam 2:35; 2 Sam 7:11, 27, 29; 1 Bren 2:24; 11:38a wnaeth dai iddynt hwythau. 22A Pharo a orchmynnodd i’w holl bobl, gan ddywedyd, #Act 7:19Pob mab a’r a enir, bwriwch ef i’r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.

Dewis Presennol:

Exodus 1: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda