Deuteronomium 8
8
1 Annog i ufudd‐dod, o ran ymgeledd Duw iddynt hwy.
1Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw; fel y byddoch fyw, ac y cynyddoch, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr Arglwydd wrth eich tadau trwy lw. 2A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy’r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, #Pen 13:3gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit. 3Ac efe a’th ddarostyngodd, ac #Exod 16:3a oddefodd i ti newynu, ac a’th #Exod 16:12, 14fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnâi efe i ti wybod #Salm 104:29; Mat 4:4; Luc 4:4nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a’r sydd yn dyfod allan o enau yr Arglwydd y bydd byw dyn. 4#Pen 29:5; Neh 9:21Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a’th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn. 5#2 Sam 7:14; Salm 89:32; Diar 3:12; Heb 12:5; Dat 3:19Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun. 6A chadw orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd, ac i’w ofni ef. 7Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, #Pen 11:10, 11i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd; 8Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mêl; 9Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad #Pen 33:25yr hon y mae ei cherrig yn haearn, ac o’i mynyddoedd y cloddi bres. 10#Pen 6:11, 12Pan fwyteych, a’th ddigoni; yna y bendithi yr Arglwydd dy Dduw am y wlad dda a roddes efe i ti. 11Cadw arnat rhag anghofio yr Arglwydd dy Dduw, heb gadw ei orchmynion a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw: 12#Pen 28:47; 32:15|DEU 32:15; Diar 30:9; Hos 13:6Rhag wedi i ti fwyta, a’th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt; 13A lluosogi o’th wartheg a’th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o’r hyn oll y sydd gennyt: 14Yna ymddyrchafu o’th galon, ac anghofio ohonot yr Arglwydd dy Dduw, (yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; 15Yr hwn a’th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, #Num 21:6; Hos 13:5 lle yr ydoedd seirff tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; #Num 20:11; Salm 78:15; 114:8yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr; 16Yr hwn a’th fwydodd di yn yr anialwch â #Exod 16:15manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,) 17#Pen 9:4A dywedyd ohonot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn. 18Ond cofia yr Arglwydd dy Dduw: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhao efe ei gyfamod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn. 19Ac os gan anghofio yr anghofi yr Arglwydd dy Dduw, a dilyn duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddiw, gan ddifetha y’ch difethir. 20Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr Arglwydd ar eu difetha o’ch blaen chwi, felly y difethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw.
Dewis Presennol:
Deuteronomium 8: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society