Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 6

6
1 Diwedd y gyfraith yw ufudd‐dod. 3 Annog i ufuddhau.
1A dyma’r gorchmynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych #6:1 Heb. yn myned trosodd.yn myned iddi i’w meddiannu: 2Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau.
3Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti, mewn #Exod 3:8gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. 4#Marc 12:29; Ioan 17:3; 1 Cor 8:4, 6Clyw, O Israel; yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd. 5#Pen 10:12; Mat 22:37; Marc 12:30; Luc 10:27Câr di gan hynny yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth. 6#Pen 11:18; Salm 37:31; 40:8; 119:98; Esa 51:7A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon. 7A #Pen 4:9; 11:19#6:7 Heb. hoga, neu, llymha.hysbysa hwynt i’th blant; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny. 8A #Exod 13:9, 16; Diar 3:3; 6:21; 7:3rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid. 9#Pen 11:20; Esa 57:8Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth. 10Ac fe a dderfydd, wedi i’r Arglwydd dy Dduw dy ddwyn di i’r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg #Salm 105:44y rhai nid adeiledaist, 11A thai llawnion o bob daioni y rhai nis llenwaist, a phydewau cloddiedig y rhai nis cloddiaist, i winllannoedd ac olewyddlannau y rhai nis plennaist, #Pen 8:10 &cwedi i ti fwyta, a’th ddigoni; 12Yna cadw arnat, rhag anghofio ohonot yr Arglwydd, yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y #6:12 Heb. caethwyr, neu, gweision.caethiwed. 13Yr Arglwydd dy Dduw #Pen 10:12, 20; 13:4; Mat 4:10; Luc 4:8a ofni, ac ef a wasanaethi, ac i’w enw ef #Salm 63:11; Esa 45:23; 65:16; Jer 4:2; 5:7; 12:16y tyngi. 14Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr, o dduwiau y bobloedd sydd o’ch amgylch chwi: 15(Oblegid Duw eiddigus yw yr Arglwydd dy Dduw yn dy fysg di,) rhag i lid yr Arglwydd dy Dduw ennyn yn dy erbyn, a’th ddifetha di oddi ar wyneb y ddaear.
16 # Mat 4:7; Luc 4:12 Na themtiwch yr Arglwydd eich Duw, #Exod 17:2; Num 20:3, 4fel y temtiasoch ef ym Massa. 17Gan gadw cedwch orchmynion yr Arglwydd eich Duw, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, y rhai a orchmynnodd efe i ti. 18A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus yng ngolwg yr Arglwydd: fel y byddo da i ti, a myned ohonot i mewn, a pherchenogi’r wlad dda, yr hon trwy lw a addawodd yr Arglwydd i’th dadau di; 19#Num 33:52Gan yrru ymaith dy holl elynion o’th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd. 20Pan ofynno dy fab i ti #6:20 Heb. y fory.wedi hyn, gan ddywedyd, Beth yw y tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i chwi? 21Yna dywed wrth dy fab, Ni a fuom gaethweision i Pharo yn yr Aifft; a’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aifft #Exod 3:19; 13:3â llaw gadarn. 22Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion a rhyfeddodau mawrion a niweidiol, ar yr Aifft, ar Pharo a’i holl dŷ, yn ein golwg ni; 23Ac a’n dug ni allan oddi yno, fel y dygai efe nyni i mewn, i roddi i ni y wlad yr hon trwy lw a addawsai efe i’n tadau ni. 24A’r Arglwydd a orchmynnodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn, i ofni yr Arglwydd ein Duw, er daioni i ni yr holl ddyddiau; fel y cadwai efe nyni yn fyw, megis y mae y dydd hwn. 25A #Rhuf 10:3, 5chyfiawnder a fydd i ni, os ymgadwn i wneuthur y gorchmynion hyn oll, o flaen yr Arglwydd ein Duw, fel y gorchmynnodd efe i ni.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda