Deuteronomium 3
3
1 Gorchfygu Og brenin Basan: 11 maint ei wely ef. 12 Rhannu y tiroedd hynny rhwng y ddau lwyth a hanner. 23 Gweddi Moses am gael myned i’r wlad; 26 a rhoddi iddo gennad i’w gweled hi.
1Yna y troesom, ac yr esgynasom ar hyd ffordd Basan; ac #Num 21:33 &c; Pen 29:7Og brenin Basan a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe a’i holl bobl, i ryfel, i Edrei. 2A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Nac ofna ef: oblegid yn dy law di y rhoddaf ef, a’i holl bobl, a’i wlad; a thi a wnei iddo fel y gwnaethost i #Num 21:24Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon. 3Felly yr Arglwydd ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni #Num 21:35Og brenin Basan, a’i holl bobl; ac ni a’i trawsom ef, hyd na adawyd iddo un yng ngweddill: 4Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, fel nad oedd ddinas nas dygasom oddi arnynt; trigain dinas, holl wlad Argob, brenhiniaeth Og o fewn Basan. 5Yr holl ddinasoedd hyn oedd gedyrn o furiau uchel, pyrth, a barrau, heblaw dinasoedd heb furiau lawer iawn. 6A difrodasom hwynt, fel y gwnaethom i Sehon brenin Hesbon, gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr, y gwragedd, a’r plant. 7Ond yr holl anifeiliaid ac ysbail y dinasoedd a ysglyfaethasom i ni ein hunain. 8A ni a gymerasom yr amser hwnnw o law dau frenin yr Amoriaid y wlad o’r tu yma i’r Iorddonen, o afon Arnon hyd fynydd Hermon; 9(Y Sidoniaid a alwant #Pen 4:48Hermon yn Sirion, a’r Amoriaid a’i galwant Senir;) 10Holl ddinasoedd y gwastad, a holl Gilead, a #Jos 12:5; 13:11holl Basan hyd Selcha ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og o fewn Basan. 11Oblegid Og brenin Basan yn unig a adawsid o weddill y cewri: wele, ei wely ef oedd wely haearn: onid yw hwnnw yn #2 Sam 12:26; Jer 49:2; Esec 21:20Rabbath meibion Ammon? naw cufydd oedd ei hyd, a phedwar cufydd ei led, wrth gufydd gŵr. 12A’r wlad hon a berchenogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, #Num 32:33; Jos 13:8 &ca’i ddinasoedd ef a roddais i’r Reubeniaid ac i’r Gadiaid. 13A’r gweddill o Gilead, a holl Basan, sef brenhiniaeth Og, a roddais i hanner llwyth Manasse; sef holl wlad Argob, a holl Basan, yr hon a elwid Gwlad y cewri. 14#1 Cron 2:22Jair mab Manasse a gymerth holl wlad Argob, hyd fro Gesuri, a Maachathi; ac a’u galwodd hwynt ar ei enw ei hun, Basan #Num 32:41Hafoth‐jair, hyd y dydd hwn. 15#Num 32:39Ac i Machir y rhoddais i Gilead. 16Ac i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, y rhoddais o Gilead hyd afon Arnon, hanner yr afon a’r terfyn, a hyd yr afon Jabboc, #Num 21:24; Jos 12:2terfyn meibion Ammon: 17Hefyd y rhos, a’r Iorddonen, a’r terfyn o #Num 34:11Cinnereth, hyd fôr y rhos, sef y môr heli, dan #3:17 Neu, Ffynhonnau Pisga, neu, y bryn.Asdoth‐pisga, tua’r dwyrain.
18Gorchmynnais hefyd i chwi yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a roddes i chwi y wlad hon i’w meddiannu: #Num 32:20ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel, pob #3:18 Heb. mab.rhai pybyr ohonoch. 19Yn unig eich gwragedd, a’ch plant, a’ch anifeiliaid, (gwn fod llawer o anifeiliaid i chwi,) a drigant yn eich dinasoedd a roddais i chwi. 20Hyd pan wnelo’r Arglwydd i’ch brodyr orffwyso fel chwithau, a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt dros yr Iorddonen: yna #Jos 22:4dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth a roddais i chwi.
21 #
Num 27:18
Gorchmynnais hefyd i Josua yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Dy lygaid di a welsant yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r ddau frenin hyn: felly y gwna’r Arglwydd i’r holl deyrnasoedd yr ydwyt ti yn myned drosodd atynt. 22Nac ofnwch hwynt: oblegid yr Arglwydd eich Duw, efe a ymladd drosoch chwi. 23Ac #Edrych 2 Cor 12:8, 9erfyniais ar yr Arglwydd yr amser hwnnw, gan ddywedyd, 24O Arglwydd Dduw, tydi a ddechreuaist ddangos i’th was dy fawredd, a’th law gadarn; oblegid #Salm 86:8; 89:6pa Dduw sydd yn y nefoedd, neu ar y ddaear, yr hwn a weithreda yn ôl dy weithredoedd a’th nerthoedd di? 25Gad i mi fyned drosodd, atolwg, a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen, a’r mynydd da hwnnw, a Libanus. 26Ond yr Arglwydd #Num 20:12; 27:14; Pen 1:37; 31:2; 32:51, 52; 34:4; Salm 106:32a ddigiasai wrthyf o’ch plegid chwi, ac ni wrandawodd arnaf: ond dywedyd a wnaeth yr Arglwydd wrthyf, Digon yw hynny i ti; na chwanega lefaru wrthyf mwy am y peth hyn. 27#Num 27:12Dos i fyny i ben #3:27 Neu, y bryn.Pisga, a dyrchafa dy lygaid tua’r gorllewin, a’r gogledd, a’r deau a’r dwyrain, ac edrych arni â’th lygaid: oblegid ni chei di fyned dros yr Iorddonen hon. 28#Num 27:18Gorchymyn hefyd i Josua, a nertha a chadarnha ef: oblegid efe a â drosodd o flaen y bobl yma, ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlad yr hon a weli di. 29Felly aros a wnaethom yn #Pen 34:6y dyffryn gyferbyn â Beth‐peor.
Dewis Presennol:
Deuteronomium 3: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society