Deuteronomium 23
23
1 Pwy a all, a phwy ni all ddyfod i’r gynulleidfa. 9 Rhaid yw gochelyd aflendid yn y llu. 15 Am y gwas ffoadur. 17 Am frynti. 18 Am aberthau ffiaidd, 19 usuriaeth, 21 addunedau, 24 a chamweddau.
1Na ddeued neb wedi ysigo ei eirin, na disbaidd, i gynulleidfa yr Arglwydd. 2Na ddeued basterdyn i gynulleidfa yr Arglwydd; y ddegfed genhedlaeth iddo hefyd ni chaiff ddyfod i gynulleidfa yr Arglwydd. 3Na ddeled #Neh 13:1Ammoniad na Moabiad i gynulleidfa yr Arglwydd; y ddegfed genhedlaeth hefyd ohonynt na ddeued i gynulleidfa yr Arglwydd byth: 4#Edrych Pen 2:29Oblegid ni chyfarfuant â chwi â bara ac â dwfr yn y ffordd, wrth eich dyfod o’r Aifft; ac #Num 22:5, 6o achos cyflogi ohonynt i’th erbyn Balaam mab Beor o Pethor ym Mesopotamia, i’th felltithio di. 5Eto yr Arglwydd dy Dduw ni fynnodd wrando ar Balaam: ond trodd yr Arglwydd dy Dduw y felltith yn fendith i ti; canys hoffodd yr Arglwydd dy Dduw dydi. 6#Esra 9:12Na chais eu heddwch hwynt, na’u daioni hwynt, dy holl ddyddiau byth.
7Na ffieiddia Edomiad; canys dy frawd yw: na ffieiddia Eifftiad; oherwydd dieithr fuost yn ei wlad ef. 8Deued ohonynt i gynulleidfa yr Arglwydd y drydedd genhedlaeth o’r meibion a genhedlir iddynt.
9Pan êl y llu allan yn erbyn dy elynion, yna ymgadw rhag pob peth drwg.
10 #
Lef 15:16
O bydd un ohonot heb fod yn lân, oherwydd damwain nos; eled allan o’r gwersyll; na ddeued o fewn y gwersyll. 11#23:11 Heb. A phan wynebo yr hwyr.Ac ym min yr hwyr ymolched mewn dwfr: yna wedi machludo’r haul, deued i fewn y gwersyll.
12A bydded lle i ti o’r tu allan i’r gwersyll; ac yno yr ei di allan. 13A bydded gennyt rawffon ymysg dy arfau; a bydded pan eisteddych allan, gloddio ohonot â hi, a thro a chuddia yr hyn a ddaeth oddi wrthyt. 14Oherwydd bod yr Arglwydd dy Dduw yn rhodio ymhlith dy wersyllau, i’th waredu, ac i roddi dy elynion o’th flaen di; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot ti #23:14 Heb. noethni dim.ddim brynti, a throi oddi wrthyt.
15 #
1 Sam 30:15
Na ddyro at ei feistr was a ddihangodd atat oddi wrth ei feistr. 16Gyda thi y trig yn dy fysg, yn y fan a ddewiso, yn un o’th byrth di, lle byddo da ganddo; ac na chystuddia ef.
17Na fydded #23:17 sodomes.putain #Edrych Diar 2:16o ferched Israel, ac na fydded #23:17 sodomiad.puteiniwr o feibion Israel. 18Na ddwg wobr putain, na gwerth ci, i dŷ yr Arglwydd dy Dduw, mewn un adduned: canys y maent ill dau yn ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw.
19 #
Exod 22:25; Lef 25:36; Neh 5:2; Salm 15:5; Luc 6:34, 35 Na chymer #23:19 usuriaeth.ocraeth gan dy frawd; ocraeth arian, ocraeth bwyd, ocraeth dim y cymerir ocraeth amdano. 20#Edrych Pen 15:3; Lef 19:34Gan estron y cymeri ocraeth; ond na chymer ocraeth gan dy frawd: fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di ym mhob peth y rhoddych dy law arno, yn y tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu.
21 #
Num 30:2; Preg 5:4 Pan addunedych adduned i’r Arglwydd dy Dduw, nac oeda ei thalu: canys yr Arglwydd dy Dduw gan ofyn a’i gofyn gennyt; a byddai yn bechod ynot. 22Ond os peidi ag addunedu, ni bydd pechod ynot. 23Cadw a gwna yr hyn a ddaeth allan o’th wefusau; megis yr addunedaist i’r Arglwydd dy Dduw offrwm gwirfodd, yr hwn a draethaist â’th enau.
24Pan ddelych i winllan dy gymydog, yna bwyta o rawnwin dy wala, wrth dy feddwl; ond na ddod yn dy lestr yr un. 25Pan ddelych i ŷd dy gymydog, #Mat 12:1; Marc 2:23; Luc 6:1yna y cei dynnu y tywysennau â’th law; ond ni chei osod cryman yn ŷd dy gymydog.
Dewis Presennol:
Deuteronomium 23: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society