Deuteronomium 17
17
1 Rhaid yw bod y pethau a offrymir yn ddianaf. 2 Rhaid yw lladd delw‐addolwyr. 8 Ymrafaelion caled a fernir gan yr offeiriaid a’r barnwyr. 12 Yr hwn a ddiystyro y cyfryw farn, a roddir i farwolaeth. 14 Dewisiad, 16 a dyletswydd brenin.
1Nac #Pen 15:21; Mal 1:8abertha i’r Arglwydd dy Dduw ych neu #17:1 Neu, afr.ddafad y byddo arno anaf, neu ddim gwrthuni: canys casbeth yr Arglwydd dy Dduw yw hynny.
2 #
Pen 13:6
Pan gaffer yn dy blith di, o fewn un o’th byrth y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti, ŵr neu wraig a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw, gan droseddu ei gyfamod ef, 3Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dieithr, ac a ymgrymodd iddynt, i’r #Pen 4:19; Job 31:26haul, neu i’r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchmynnais; 4Pan ddangoser i ti, a chlywed ohonot, yna cais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn Israel; 5Yna dwg allan y gŵr hwnnw, neu y wraig honno, a wnaethant y peth drygionus hyn, i’th byrth, sef y gŵr neu y wraig, a #Lef 24:14, 16llabyddia hwynt â meini, fel y byddont feirw. 6#Num 35:30; Pen 19:15; Mat 18:16; Ioan 8:17; 2 Cor 13:1; 1 Tim 5:19; Heb 10:28Wrth dystiolaeth dau o dystion, neu dri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw: na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst. 7#Pen 13:9Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf i’w farwolaethu ef, a llaw yr holl bobl wedi hynny: #Pen 13:5a thi a dynni ymaith y drwg o’th blith.
8 #
2 Cron 19:10; Hag 2:11; Mal 2:7 Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti, #Edrych Exod 21:13, 20, 22, 28; 22:2; Num 35:11, 16, 19; Pen 19:4, 10rhwng gwaed a gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwng #17:8 dyrnod.pla a phla, mewn pethau ymrafaelus o fewn dy byrth; yna cyfod, a dos i fyny i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: 9A #Edrych Jer 18:18dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac #Pen 19:17at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth. 10A gwna yn ôl rheol y gair a ddangosant i ti, o’r lle hwnnw a ddewiso yr Arglwydd; ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgant i ti. 11Yn ôl rheol y gyfraith a ddysgont i ti, ac yn ôl y farn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti, i’r tu deau nac i’r tu aswy. 12#Hos 4:4A’r gŵr a wnêl mewn rhyfyg, heb wrando ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr Arglwydd dy Dduw, neu ar y barnwr; yna rhodder i farwolaeth y gŵr hwnnw: a thyn ymaith y drwg o Israel. 13A’r holl bobl a glywant, ac a ofnant; ac ni ryfygant mwy.
14Pan ddelych i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a’i feddiannu, a thrigo ynddo, os dywedi, #1 Sam 8:5Gosodaf arnaf frenin, megis yr holl genhedloedd sydd o’m hamgylch: 15Gan osod gosod arnat yn frenin #Edrych 1 Sam 9:15; 10:24; 16:12; 1 Cron 22:10yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: #Jer 30:21o blith dy frodyr y gosodi arnat frenin; ni elli roddi arnat ŵr dieithr yr hwn nid yw frawd i ti. 16Ond nac amlhaed iddo #1 Bren 4:26; 10:26, 28feirch, ac na #Esa 31:1; Esec 17:15ddychweled efe y bobl i’r Aifft i amlhau meirch; gan i’r #Exod 13:17; Num 14:3, 4 Arglwydd ddywedyd wrthych, #Pen 28:68; Hos 11:5; Edrych Jer 42:15Na chwanegwch ddychwelyd y ffordd honno mwy. 17Ac nac amlhaed iddo wragedd, fel #Edrych 1 Bren 11:3, 4na ŵyro ei galon; ac nac amlhaed arian ac aur lawer iddo. 18A phan eisteddo ar deyrngadair ei frenhiniaeth, ysgrifenned iddo gopi o’r gyfraith hon mewn llyfr, allan #Edrych 2 Bren 22:8o’r hwn sydd gerbron yr offeiriaid y Lefiaid. 19A #Jos 1:8bydded gydag ef, a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd: fel y dysgo ofni yr Arglwydd ei Dduw, i gadw holl eiriau y gyfraith hon, a’r deddfau hyn, i’w gwneuthur hwynt: 20Fel na ddyrchafo ei galon uwchlaw ei frodyr, ac na chilio oddi wrth y gorchymyn, i’r tu deau nac i’r tu aswy: fel yr estynno ddyddiau yn ei frenhiniaeth efe a’i feibion yng nghanol Israel.
Dewis Presennol:
Deuteronomium 17: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society