Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 13

13
1 Y rhai a hudo i ddelw‐addoliaeth, 6 er nesed a fônt i ti, 9 rhaid yw eu llabyddio. 12 Nad arbeder y dinasoedd lle y bo gau‐dduwiaeth.
1Pan godo yn dy fysg di broffwyd, neu freuddwydydd breuddwyd, (a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod, 2A dyfod i ben o’r #Edrych Pen 18:22; Jer 28:9; Mat 7:22arwydd, neu’r rhyfeddod a lefarodd efe wrthyt,) gan ddywedyd, Awn ar ôl duwiau dieithr, (y rhai nid adwaenost,) a gwasanaethwn hwynt; 3Na wrando ar eiriau y proffwyd hwnnw, neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnnw: canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich #Pen 8:2; Edrych Mat 24:24; 1 Cor 11:19; 2 Thess 2:11; Dat 13:14profi chwi, i wybod a ydych yn caru’r Arglwydd eich Duw â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid. 4Ar ôl yr Arglwydd eich Duw yr ewch, ac ef a ofnwch, a’i orchmynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandewch, ac ef #Pen 10:20a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch. 5A’r #Pen 18:20; Jer 14:15; Sech 13:3proffwyd hwnnw, neu y breuddwydydd breuddwyd hwnnw, a roddir i farwolaeth; canys llefarodd #13:5 Heb. dychweliad yn erbyn yr Arglwydd.i’ch troi chwi oddi wrth yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dug chwi allan o dir yr Aifft, ac a’ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed, i’th wthio di allan o’r ffordd, yr hon y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti rodio ynddi. #Pen 22:21, 22, 24; 1 Cor 5:13Felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg.
6 # Pen 17:2 Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu #Edrych Gen 16:5; Pen 28:54; Diar 5:20; Micha 7:5wraig dy fynwes, neu dy gyfaill, yr hwn sydd fel dy enaid dy hun, a’th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, Awn a gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti, na’th dadau; 7Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o’ch amgylch chwi, yn agos atat, neu ymhell oddi wrthyt, o un cwr i’r tir hyd gwr arall y tir: 8Na chydsynia ag ef, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ef, ac na chela arno: 9Ond #Pen 17:7gan ladd lladd ef; bydded #Act 7:58dy law di arno ef yn gyntaf, i’w roddi i farwolaeth, a llaw yr holl bobl wedi hynny. 10A llabyddia ef â meini, fel y byddo marw: canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft, o dŷ y #13:10 Heb. caethion.caethiwed. 11A #Pen 17:13holl Israel a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus â hyn yn dy blith.
12Pan glywech am un o’th ddinasoedd y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti i drigo ynddynt, gan ddywedyd, 13#1 Ioan 2:19; Jwdas 19Aeth dynion, meibion #13:13 Neu, Belial. Edrych Barn 19:22; 1 Sam 2:12; 25:25; 2 Cor 6:15y fall, allan o’th blith, a gyrasant drigolion eu dinas, gan ddywedyd, Awn, gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch; 14Yna ymofyn, a chwilia, a chais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn dy fysg; 15Gan daro taro drigolion y ddinas honno â min y cleddyf; #Lef 27:28; Jos 6:17difroda hi, a’r rhai oll a fyddant ynddi, a’i hanifeiliaid hefyd, â min y cleddyf. 16A’i holl ysbail hi a gesgli i ganol ei heol hi, ac a losgi’r ddinas a’i holl ysbail hi yn gwbl, i’r Arglwydd dy Dduw, â thân: felly bydded yn garnedd byth; nac adeilader hi mwy. 17Ac #Pen 7:26na lyned wrth dy law di ddim o’r #13:17 Neu, peth melltigedig.diofryd‐beth: fel y dychwelo yr Arglwydd oddi wrth angerdd ei ddig, ac y rhoddo i ti drugaredd, ac y tosturio wrthyt, ac y’th amlhao, megis y tyngodd wrth dy dadau: 18Pan wrandawech ar lais yr Arglwydd dy Dduw, #Pen 12:25, 32gan gadw ei holl orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, gan wneuthur yr hyn sydd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda