Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 11

11
1 Moses yn annog y bobl i ufudd‐dod: 2 trwy eu gwybodaeth eu hunain o fawr weithredoedd Duw; 8 trwy addewid o fawr fendithion Duw, 16 a thrwy fygythion. 18 Bod yn rhaid myfyrio yn ofalus ar eiriau Duw. 26 Rhoddi y fendith a’r felltith o’u blaen hwynt.
1Câr dithau yr Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwraeth ef, a’i ddeddfau a’i farnedigaethau, a’i orchmynion, byth. 2A chydnabyddwch heddiw: canys nid wyf yn ymddiddan â’ch plant, y rhai nid adnabuant, ac ni welsant gerydd yr Arglwydd eich Duw chwi, ei fawredd, ei law gref, a’i fraich estynedig; 3Ei arwyddion hefyd, a’i weithredoedd, y rhai a wnaeth efe yng nghanol yr Aifft, i Pharo brenin yr Aifft, ac i’w holl dir; 4A’r hyn a wnaeth efe i lu yr Aifft, i’w feirch ef, ac i’w gerbydau; #Exod 14:27y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr coch lenwi dros eu hwynebau hwynt, pan oeddynt yn ymlid ar eich ôl, ac y difethodd yr Arglwydd hwynt, hyd y dydd hwn: 5A’r hyn a wnaeth efe i chwi yn yr anialwch, nes eich dyfod i’r lle hwn; 6#Num 16:31; 27:3; Salm 106:17A’r hyn a wnaeth efe i Dathan, ac i Abiram, meibion Elïab, mab Reuben; y modd yr agorodd y ddaear ei safn, ac a’u llyncodd hwynt, a’u teuluoedd, a’u pebyll, a’r holl #11:6 Neu, dda byw oedd yn eu canlyn hwy.olud oedd #11:6 Heb. wrth eu traed.ganddynt, ymysg holl Israel. 7Eithr eich llygaid chwi oedd yn gweled holl fawrion weithredoedd yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe. 8Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddiw; fel y byddoch gryfion, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu: 9Ac fel yr estynnoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac i’w had; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
10Oherwydd y tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu, nid fel tir yr Aifft y mae, yr hwn y daethoch allan ohono, lle yr heuaist dy had, ac y dyfrheaist â’th droed, fel gardd lysiau: 11Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu, sydd fynydd‐dir, a dyffryndir, yn yfed dwfr o law y nefoedd; 12Tir yw, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei #11:12 Heb. geisio.ymgeleddu: #1 Bren 9:3llygaid yr Arglwydd dy Dduw sydd bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd.
13A bydd, os gan wrando y gwrandewch ar fy ngorchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i garu yr Arglwydd eich Duw, ac i’w wasanaethu, â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid; 14Yna y rhoddaf law i’ch tir yn ei amser, sef #Joel 2:23; Iago 5:7y cynnar‐law, a’r diweddar‐law; fel y casglech dy ŷd, a’th win, a’th olew; 15A rhoddaf laswellt yn dy faes, i’th anifeiliaid; fel y bwytaech, ac y’th ddigoner. 16Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon, a chilio ohonoch, a #Pen 8:19gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; 17Ac enynnu dicllonedd yr Arglwydd i’ch erbyn, a #1 Bren 8:35chau ohono ef y nefoedd, fel na byddo glaw, ac na roddo y ddaear ei chnwd, a’ch difetha yn fuan o’r tir yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei roddi i chwi.
18Am hynny #Pen 6:6gosodwch fy ngeiriau hyn yn eich calon, ac yn eich meddwl, a #Pen 6:8rhwymwch hwynt yn arwydd ar eich dwylo, a byddant yn rhactalau rhwng eich llygaid: 19#Pen 4:9, 10; 6:7A dysgwch hwynt i’ch plant; gan grybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan rodiech ar y ffordd, pan orweddych hefyd, a phan godych. 20Ac ysgrifenna hwynt ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth; 21Fel yr amlhao eich dyddiau chwi, a dyddiau eich plant chwi, ar y ddaear yr hon a dyngodd yr Arglwydd wrth eich tadau am ei rhoddi iddynt, #Salm 72:5; 89:29fel dyddiau y nefoedd ar y ddaear.
22Canys os gan gadw y cedwch yr holl orchmynion hyn, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi i’w gwneuthur, i garu yr Arglwydd eich Duw, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i lynu wrtho ef; 23Yna y gyr yr Arglwydd allan yr holl genhedloedd hyn o’ch blaen chwi, a chwi a feddiennwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi. 24#Jos 1:3; 14:9Pob man y sathro gwadn eich troed chwi arno, fydd eiddo chwi: #Gen 15:18; Exod 23:31; Num 34:3o’r anialwch, a Libanus, ac o’r afon, sef afon Ewffrates, hyd y môr eithaf, y bydd eich terfyn chwi. 25Ni saif gŵr yn eich wyneb: eich arswyd a’ch ofn a rydd yr Arglwydd eich Duw ar wyneb yr holl dir yr hwn y sathroch arno, #Exod 23:27megis y llefarodd wrthych.
26 # Pen 30:15 Wele, rhoddi yr ydwyf fi o’ch blaen chwi heddiw fendith a melltith: 27#Pen 28:2Bendith, os gwrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw; 28A #Pen 28:15melltith, oni wrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw, ond cilio ohonoch allan o’r ffordd yr ydwyf fi yn ei gorchymyn i chwi heddiw, i fyned ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch 29Bydded gan hynny, pan ddygo yr Arglwydd dy Dduw di i’r tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu, roddi ohonot #Pen 27:12, 13; Jos 8:33y fendith ar fynydd Garisim, a’r felltith ar fynydd Ebal. 30Onid yw y rhai hyn o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tua’r lle y machluda’r haul, yn nhir y Canaaneaid, yr hwn sydd yn trigo yn y rhos ar gyfer Gilgal, #Gen 12:6; Barn 7:1gerllaw gwastadedd More? 31Canys myned yr ydych dros yr Iorddonen, i fyned i feddiannu’r tir y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi i chwi; a chwi a’i meddiennwch ac a breswyliwch ynddo. 32Gwyliwch chwithau #Pen 5:32am wneuthur yr holl ddeddfau a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu rhoddi o’ch blaen chwi heddiw.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda