Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau’r Apostolion 28

28
A.D. 62. —
1 Paul, wedi y llongddrylliad, yn cael ei dderbyn yn garedig gan y barbariaid. 5 Y wiber ar ei law ef heb wneud niwed iddo: ac yntau yn iacháu llawer o glefydau yn yr ynys. 11 Hwynt‐hwy yn myned ymaith tua Rhufain. 17 Paul yn mynegi i’r Iddewon achos ei ddyfodiad. 24 Wedi iddo bregethu, rhai yn credu, a rhai heb gredu: 30 ac yntau er hynny yn pregethu yno ddwy flynedd.
1Ac wedi iddynt ddianc, yna y gwybuant mai #28:1 Malta.Melita y gelwid #Pen 27:26yr ynys. 2A’r barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidd‐dra nid bychan: oblegid hwy a gyneuasant dân, ac a’n derbyniasant ni oll oherwydd y gawod gynrhychiol, ac oherwydd yr oerfel. 3Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer o #28:3 frigau.friwydd, a’u dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o’r gwres, ac a lynodd wrth ei law ef. 4A phan welodd y barbariaid y bwystfil yng nghrog wrth ei law ef, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Yn sicr llawruddiog yw’r dyn hwn, yr hwn, er ei ddianc o’r môr, ni adawodd dialedd iddo fyw. 5Ac efe a ysgydwodd y bwystfil i’r tân, ac #Marc 16:18; Luc 10:19ni oddefodd ddim niwed. 6Ond yr oeddynt hwy yn disgwyl iddo ef chwyddo, neu syrthio yn ddisymwth yn farw. Eithr wedi iddynt hir ddisgwyl, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, hwy a newidiasant eu meddwl, ac #Pen 14:11a ddywedasant mai duw oedd efe. 7Ynghylch y man hwnnw yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a’i enw Publius, yr hwn a’n derbyniodd ni, ac a’n lletyodd dridiau yn garedig. 8A digwyddodd, fod tad Publius yn gorwedd yn glaf o gryd a gwaedlif: at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a #Iago 5:14, 15gweddïo, efe a ddododd ei ddwylo arno ef, ac a’i hiachaodd. 9Felly wedi gwneuthur hyn, y lleill hefyd y rhai oedd â heintiau arnynt yn yr ynys, a ddaethant ato, ac a iachawyd: 10Y rhai hefyd a’n parchasant ni â llawer o urddas; a phan oeddem yn ymadael, hwy a’n llwythasant ni â phethau angenrheidiol. 11Ac wedi tri mis, yr aethom ymaith mewn llong o Alexandria, yr hon a aeafasai yn yr ynys; a’i harwydd hi oedd Castor a Pholux. 12Ac wedi ein dyfod i Syracusa, ni a drigasom yno dridiau. 13Ac oddi yno, wedi myned oddi amgylch, ni a ddaethom i Regium. Ac ar ôl un diwrnod y deheuwynt a chwythodd, ac ni a ddaethom yr ail dydd i Puteoli: 14Lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyda hwynt saith niwrnod: ac felly ni a ddaethom i Rufain. 15Ac oddi yno, pan glybu’r brodyr amdanom, hwy a ddaethant i’n cyfarfod ni hyd Appii‐fforum, a’r Tair Tafarn: y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymerodd gysur. 16Eithr pan ddaethom i Rufain, y canwriad a roddes y carcharorion at ben‐capten y llu; eithr #Pen 24:23; 27:3cenhadwyd i Paul aros wrtho ei hun, gyda milwr oedd yn ei gadw ef. 17A digwyddodd, ar ôl tridiau, alw o Paul ynghyd y rhai oedd bennaf o’r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghyd, efe a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, er na wneuthum i ddim yn erbyn y bobl, na defodau y tadau, eto #Pen 21:33mi a roddwyd yn garcharor o Jerwsalem i ddwylo’r Rhufeinwyr. 18Y rhai, #Pen 22:24; 24:10; 25:8; 26:31wedi darfod fy holi, a fynasent fy ngollwng ymaith, am nad oedd dim achos angau ynof. 19Eithr am fod yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn, #Pen 25:11mi a yrrwyd i apelio at Gesar; nid fel petai gennyf beth i achwyn ar fy nghenedl. 20Am yr achos hwn gan hynny y gelwais amdanoch chwi, i’ch gweled, ac i ymddiddan â chwi: canys #Pen 26:6, 7o achos gobaith Israel y’m rhwymwyd i â’r #Pen 26:29; Eff 4:1; 6:20; 2 Tim 1:16gadwyn hon. 21A hwythau a ddywedasant wrtho, Ni dderbyniasom ni lythyrau o Jwdea yn dy gylch di, ac ni fynegodd ac ni lefarodd neb o’r brodyr a ddaeth oddi yno ddim drwg amdanat ti. 22Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennyt ti beth yr ydwyt yn ei synied: oblegid am y sect hon, y mae yn hysbys i ni fod #Pen 24:5, 14ym mhob man yn dywedyd yn ei herbyn. 23Ac wedi iddynt #28:23 bennu.nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth ato ef i’w lety; i’r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu, #Edrych ar Act 26:6, 22allan o gyfraith Moses, a’r proffwydi, o’r bore hyd yr hwyr. 24A #Pen 17:4rhai a gredasant i’r pethau a ddywedasid, a rhai ni chredasant. 25Ac a hwy yn anghytûn â’i gilydd, hwy a ymadawsant, wedi i Paul ddywedyd un gair, mai da y llefarodd yr Ysbryd Glân trwy Eseias y proffwyd wrth ein tadau ni, 26Gan ddywedyd, #Esa 6:9; Mat 13:14; Marc 4:12; Luc 8:10; Ioan 12:40; Rhuf 11:8Dos at y bobl yma, a dywed, Yn clywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch: 27Canys brasawyd calon y bobl hyn, a thrwm y clywsant â’u clustiau, a’u llygaid a gaeasant; rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a dychwelyd, ac i mi eu hiacháu hwynt. 28Bydded hysbys i chwi gan hynny, anfon iachawdwriaeth Duw #Pen 13:46; 18:6at y Cenhedloedd; a hwy a wrandawant. 29Ac wedi iddo ddywedyd hyn, ymadawodd yr Iddewon, a chanddynt ddadl mawr yn eu plith. 30A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hun, ac a dderbyniodd bawb a’r oedd yn dyfod i mewn ato, 31Gan bregethu teyrnas Dduw, ac athrawiaethu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, #Pen 4:31gyda phob hyfder, yn ddiwahardd.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda