Actau’r Apostolion 26
26
A.D. 62. —
2 Paul, yng ngŵydd Agrippa, yn dangos ei fuchedd o’i febyd; 12 ac mor rhyfeddol y troisid ac y galwesid ef i fod yn apostol. 24 Ffestus yn taeru ei fod ef wedi ynfydu: yntau ar hynny yn ateb yn llariaidd. 28 Agrippa ym mron myned yn Gristion. 31 Yr holl gynulleidfa yn ei farnu ef yn ddieuog.
1Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Y mae cennad i ti i ddywedyd drosot dy hunan. Yna Paul a estynnodd ei law, ac a’i hamddiffynnodd ei hun. 2Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, O frenin Agripa, gan fy mod yn cael fy amddiffyn fy hun ger dy fron di heddiw, am yr holl bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon: 3Yn bendifaddau gan wybod dy fod di yn gydnabyddus â’r holl ddefodau a’r holion sydd ymhlith yr Iddewon: oherwydd paham yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrando i yn ddioddefgar. 4Fy muchedd i o’m mebyd, yr hon oedd o’r dechreuad ymhlith fy nghenedl yn Jerwsalem, a ŵyr yr Iddewon oll; 5Y rhai a’m hadwaenent i o’r dechrau, (os mynnant dystiolaethu,) mai yn ôl #Pen 23:6; 24:15, 22; Phil 3:5y sect fanylaf o’n crefydd ni y bûm i fyw yn Pharisead. 6Ac yn awr, am obaith #Gen 3:15; 22:18; 26:4; 49:10; Deut 18:15; 2 Sam 7:12; Salm 132:11; Esa 4:2; 7:14; 9:6; 40:10; Jer 23:5; 33:14; Esec 34:23; 37:24; Dan 9:24; Micha 7:20yr addewid a wnaed i’n tadau gan Dduw, yr wyf yn sefyll i’m barnu: 7I’r hon addewid y mae ein deuddeg llwyth ni, #26:7 yn astud.heb dor yn gwasanaethu Duw nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am yr hwn obaith yr achwynir arnaf, O frenin Agripa, gan yr Iddewon. 8Pa beth? ai anghredadwy y bernir gennych chwi, y cyfyd Duw y meirw? 9Minnau yn wir a dybiais ynof fy hun, fod yn rhaid i mi wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nasareth. 10#Pen 8:3Yr hyn hefyd a wneuthum yn Jerwsalem: a llawer o’r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr archoffeiriaid; ac wrth eu difetha, mi a roddais farn yn eu herbyn. 11Ac ym mhob synagog yn fynych mi a’u cosbais hwy, ac a’u cymhellais i gablu; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn, mi a’u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd. 12#Pen 9:3; 22:6Ac yn hyn, a myfi yn myned i Ddamascus ag awdurdod a chennad oddi wrth yr archoffeiriaid, 13Ar hanner dydd, O frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o’r nef, mwy na disgleirdeb yr haul, yn disgleirio o’m hamgylch, a’r rhai oedd yn ymdaith gyda mi. 14Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaear, mi a glywais leferydd yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd yn Hebraeg, Saul, Saul, paham yr ydwyt yn fy erlid i? Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau. 15Ac mi a ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. 16Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i’th osod di yn weinidog ac yn dyst o’r pethau a welaist, ac o’r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt; 17Gan dy wared di oddi wrth y bobl, a’r Cenhedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron, 18#Esa 35:5; 42:7; Luc 1:79; Eff 1:18I agoryd eu llygaid, ac #Col 1:13; 1 Pedr 2:25i’w troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a #Eff 1:11; Col 1:12chyfran ymysg y rhai a sancteiddiwyd, trwy’r ffydd sydd ynof fi. 19Am ba achos, O frenin Agripa, ni bûm anufudd i’r weledigaeth nefol: 20Eithr #Pen 9:20, 22; 13; 14; 17; 18; 21mi a bregethais i’r rhai yn Namascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thros holl wlad Jwdea, ac i’r Cenhedloedd; ar iddynt edifarhau, a dychwelyd at Dduw, a gwneuthur #Mat 3:8gweithredoedd addas i edifeirwch. 21O achos y pethau hyn #Pen 21:30yr Iddewon a’m daliasant i yn y deml, ac a geisiasant fy lladd i â’u dwylo eu hun. 22Am hynny, wedi i mi gael help gan Dduw, yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn, gan dystiolaethu i fychan a mawr, ac heb ddywedyd dim amgen nag a ddywedasai’r proffwydi a Moses y delent i ben; 23Y dioddefai Crist, ac #1 Cor 15:20; Col 1:18; Dat 1:5y byddai efe yn gyntaf o atgyfodiad y meirw, ac #Luc 2:32y dangosai oleuni i’r bobl, ac i’r Cenhedloedd. 24Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto, Ffestus a ddywedodd â llef uchel, Paul, #2 Bren 9:11; 1 Cor 4:10yr wyt ti yn ynfydu; llawer o ddysg sydd yn dy yrru di yn ynfyd. 25Ac efe a ddywedodd, Nid wyf fi yn ynfydu, O ardderchocaf Ffestus; eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf fi yn eu hadrodd. 26Canys y brenin a ŵyr oddi wrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyf fi yn llefaru yn hy: oherwydd nid wyf yn tybied fod dim o’r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn. 27O frenin Agripa, A wyt ti yn credu i’r proffwydi? Mi a wn dy fod yn credu. 28Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Yr wyt ti o fewn ychydig i’m hennill i fod yn Gristion. 29A Phaul a ddywedodd, #1 Cor 7:7Mi a ddymunwn gan Dduw, o fewn ychydig, ac yn gwbl oll, fod nid tydi yn unig, ond pawb hefyd a’r sydd yn fy ngwrando heddiw, yn gyfryw ag wyf fi, ond y rhwymau hyn. 30Ac wedi iddo ddywedyd hyn, cyfododd y brenin, a’r rhaglaw, a Bernice, a’r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt: 31Ac wedi iddynt fyned o’r neilltu, hwy a lefarasant wrth ei gilydd, gan ddywedyd, #Pen 23:9; 25:25Nid yw’r dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau, neu rwymau. 32Yna y dywedodd Agripa wrth Ffestus, Fe allasid gollwng y dyn yma ymaith, #Pen 25:11oni buasai iddo apelio at Gesar.
Dewis Presennol:
Actau’r Apostolion 26: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society