Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau’r Apostolion 22

22
A.D. 60. —
1 Paul yn adrodd yn helaeth y modd y trodd ef i’r ffydd, 17 ac y galwyd ef i fod yn apostol. 22 Y bobl, wrth glywed crybwyll am y Cenhedloedd, yn llefain yn ei erbyn: 24 yntau ar fin cael ei fflangellu; 25 ac eto yn dianc, trwy ddweud am ei ddinas‐fraint Rhufeinig.
1 # Pen 7:2 Ha wŷr, frodyr, a thadau, gwrandewch fy amddiffyn wrthych yr awron. 2(A phan glywsant mai yn Hebraeg yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell: ac efe a ddywedodd,) 3#Pen 21:39; 2 Cor 11:22Gŵr wyf fi yn wir o Iddew, yr hwn a aned yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon #Deut 33:3; Luc 10:39wrth draed #Pen 5:34Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau, #Gal 1:14yn dwyn sêl i Dduw, #Rhuf 10:2fel yr ydych chwithau oll heddiw. 4#Pen 8:3A mi a erlidiais #Pen 9:2y ffordd hon hyd angau, gan rwymo a dodi yng ngharchar wŷr a gwragedd hefyd. 5Megis ag y mae’r archoffeiriad yn dyst i mi, a’r holl henaduriaeth; gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr euthum i Ddamascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Jerwsalem, i’w cosbi. 6Eithr #Pen 9:3; 26:12digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesáu at Ddamascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymwth i fawr oleuni o’r nef ddisgleirio o’m hamgylch. 7A mi a syrthiais ar y ddaear, ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid? 8A minnau a atebais, Pwy wyt ti, O Arglwydd? Yntau a ddywedodd wrthyf, Myfi yw Iesu o Nasareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. 9Hefyd #Pen 9:7; Dan 10:7y rhai oedd gyda myfi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant; ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf. 10Ac myfi a ddywedais, Beth a wnaf, O Arglwydd? A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, a dos i Ddamascus; ac yno y dywedir i ti bob peth a’r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur. 11A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw, #22:11 Gr. myfi, yn cael fy arwain erbyn fy llaw gan y rhai oedd gyda mi.a’r rhai oedd gyda mi yn fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddeuthum i Ddamascus. 12Ac #Pen 9:17un Ananeias, gŵr defosiynol yn ôl y ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll a’r oeddynt yn preswylio yno, 13A ddaeth ataf, ac a safodd gerllaw, ac a ddywedodd wrthyf, Y brawd Saul, cymer dy olwg. Ac mi a edrychais arno yn yr awr honno. 14Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni #Pen 26:16a’th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i #1 Cor 9:1; 15:8weled #Pen 3:14; 7:52y Cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef. 15Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o’r pethau a welaist ac a glywaist. 16Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei #22:16 amcanu?aros? cyfod, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Arglwydd. 17A #Pen 9:26darfu, wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerwsalem, fel yr oeddwn yn gweddïo yn y deml, i mi syrthio mewn llewyg; 18A’i weled ef yn dywedyd wrthyf, #Mat 10:14Brysia, a dos ar frys allan o Jerwsalem: oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi. 19A minnau a ddywedais, O Arglwydd, #Ad. 4hwy a wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym mhob synagog, y rhai a gredent ynot ti: 20#Pen 7:58; 8:1A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio i’w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a’i lladdent ef. 21Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith: #Pen 9:15; 13:2; Gal 1:15; 2:8; Eff 3:8; 1 Tim 2:7; 2 Tim 1:11canys mi a’th anfonaf ymhell at y Cenhedloedd. 22A hwy a’i gwrandawsant ef hyd y gair hwn; a hwy a godasant eu llef, ac a ddywedasant, #Pen 21:36Ymaith â’r cyfryw un oddi ar y ddaear: canys nid cymwys #Pen 25:24ei fod ef yn fyw. 23Ac fel yr oeddynt yn llefain, ac yn bwrw eu dillad, ac yn taflu llwch i’r awyr, 24Y pen‐capten a orchmynnodd ei ddwyn ef i’r castell, gan beri ei holi ef trwy fflangellau; fel y gallai wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly. 25Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â chareiau, dywedodd Paul wrth y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gerllaw, #Pen 16:37Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeiniad, ac heb ei gondemnio hefyd? 26A phan glybu’r canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i’r pen‐capten, gan ddywedyd, Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur: canys Rhufeiniad yw’r dyn hwn. 27A’r pen‐capten a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Dywed i mi, ai Rhufeiniad wyt ti? Ac efe a ddywedodd, Ie. 28A’r pen‐capten a atebodd, Â swm mawr y cefais i’r ddinasfraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, A minnau a anwyd yn freiniol. 29Yn ebrwydd gan hynny yr ymadawodd oddi wrtho y rhai oedd ar fedr ei #22:29 arteithio.holi ef: a’r pen‐capten hefyd a ofnodd, pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniad, ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef. 30A thrannoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod hysbysrwydd am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iddewon, efe a’i gollyngodd ef o’r rhwymau, ac a archodd i’r archoffeiriaid a’u cyngor oll ddyfod yno; ac efe a ddug Paul i waered, ac a’i gosododd ger eu bron hwy.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda