Actau’r Apostolion 20
20
A.D. 59. —
1 Paul yn myned i Macedonia; 7 yn gwasanaethu swper yr Arglwydd, ac yn pregethu. 9 Eutychus, wedi cwympo i lawr yn farw, yn cael ei godi i fyny yn fyw. 17 Paul, ym Miletus, yn galw yr henuriaid ynghyd; ac yn mynegi iddynt beth a ddigwyddai iddo: 28 yn gorchymyn praidd Duw iddynt: 29 yn eu rhybuddio hwynt am y gau‐athrawon: 36 yn gweddïo gyda hwynt, ac yn myned ymaith.
1Ac ar ôl gostegu’r cythrwfl, Paul, wedi galw’r disgyblion ato, a’u cofleidio, #1 Tim 1:3a ymadawodd i fyned i Facedonia. 2Ac wedi iddo fyned dros y parthau hynny, a’u cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe a ddaeth i dir Groeg. 3Ac wedi aros dri mis, a gwneuthur o’r Iddewon gynllwyn iddo, fel yr oedd ar fedr morio i Syria, efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Facedonia. 4A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea; ac o’r Thesaloniaid, #Pen 19:29; 27:2; Col 4:10Aristarchus a Secundus; a Gaius o Derbe, a Timotheus; ac o’r Asiaid, #Eff 6:21; Col 4:7; 2 Tim 4:12; Titus 3:12Tychicus a #Pen 21:29; 2 Tim 4:20Troffimus. 5Y rhai hyn a aethant o’r blaen, ac a arosasant amdanom yn Nhroas. 6A ninnau a fordwyasom ymaith oddi wrth Philipi, ar ôl dyddiau’r bara croyw, ac a ddaethom atynt hwy i Droas mewn pum niwrnod; lle yr arosasom saith niwrnod. 7Ac ar #1 Cor 16:2; Dat 1:10y dydd cyntaf o’r #20:7 Sabothau.wythnos, wedi i’r disgyblion ddyfod ynghyd #Pen 2:42, 46; 1 Cor 10:16; 11:20, &ci dorri bara, Paul a #20:7 bregethodd iddynt.ymresymodd â hwynt, ar fedr myned ymaith drannoeth; ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd hanner nos. 8Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ymgasglu. 9A rhyw ŵr ieuanc, a’i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr: ac efe a syrthiodd mewn trymgwsg, tra oedd Paul yn ymresymu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsg, ac a gwympodd i lawr o’r drydedd lofft; ac a gyfodwyd i fyny yn farw. 10A Phaul a aeth i waered, ac #1 Bren 17:21a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio, a ddywedodd, #Mat 9:24Na chyffroed arnoch: canys y mae ei enaid ynddo ef. 11Ac wedi iddo ddyfod i fyny, a thorri bara, a bwyta, ac ymddiddan llawer hyd doriad y dydd; felly efe a aeth ymaith. 12A hwy a ddygasant y llanc yn fyw, ac a gysurwyd yn ddirfawr.
13Ond nyni a aethom o’r blaen i’r llong, ac a hwyliasom i Asos; ar fedr oddi yno dderbyn Paul: canys felly yr oedd efe wedi ordeinio, ar fedr myned ei hun ar ei draed. 14A phan gyfarfu efe â ni yn Asos, nyni a’i derbyniasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene. 15A morio a wnaethom oddi yno, a dyfod drannoeth gyferbyn â Chios; a thradwy y tiriasom yn Samos, ac a arosasom yn Trogylium; a’r ail dydd y daethom i Miletus. 16Oblegid Paul a roddasai ei fryd ar hwylio heibio i Effesus, fel na byddai iddo dreulio amser yn Asia. Canys #Pen 21:4, 12brysio yr oedd, os bai bosibl iddo, i fod yn Jerwsalem erbyn dydd y #20:16 Pentecost.Sulgwyn.
17Ac o Miletus efe a anfonodd i Effesus, ac a alwodd ato henuriaid yr eglwys. 18A phan ddaethant ato, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch, #Pen 18:19; 19:1, 10er y dydd cyntaf y deuthum i Asia, pa fodd y bûm i gyda chwi dros yr holl amser; 19Yn gwasanaethu’r Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau, a phrofedigaethau, y rhai a ddigwyddodd i mi trwy gynllwynion yr Iddewon: 20Y modd #Ad. 27nad ateliais ddim o’r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi, a’ch dysgu ar gyhoedd, ac o dŷ i dŷ; 21Gan dystiolaethu i’r Iddewon, ac i’r Groegiaid hefyd, #Marc 1:15; Luc 24:47yr edifeirwch sydd tuag at Dduw, a’r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Iesu Grist. 22Ac yn awr, wele #Pen 19:21fi yn rhwym yn yr ysbryd yn myned i Jerwsalem, heb wybod y pethau a ddigwydd imi yno: 23Eithr bod #Pen 21:4, 11yr Ysbryd Glân yn tystio i mi ym mhob dinas, gan ddywedyd, fod rhwymau a blinderau yn fy aros. 24Ond #Pen 21:13nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennyf fy einioes fy hun, os gallaf orffen fy ngyrfa trwy lawenydd, a’r weinidogaeth #Gal 1:1; Titus 1:3a dderbyniais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw. 25Ac yr awron, wele, mi a wn #Ad. 38; Rhuf 15:23na chewch chwi oll, ymysg y rhai y bûm i yn tramwy yn pregethu teyrnas Dduw, weled fy wyneb i mwyach. 26Oherwydd paham yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddiw, #Pen 18:6fy mod i yn lân oddi wrth waed pawb oll: 27Canys #Ad. 20nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl #Luc 7:30; Ioan 15:15; Eff 1:11gyngor Duw.
28 #
1 Tim 4:16; 1 Pedr 5:2 Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olygwyr, i fugeilio eglwys Dduw, #Eff 1:7; Col 1:14; 1 Pedr 1:19; Dat 5:9yr hon a bwrcasodd efe #Edrych Heb 9:14â’i briod waed. 29Canys myfi a wn hyn, y daw, ar ôl fy ymadawiad i, #Mat 7:15; 1 Pedr 2:1fleiddiau #20:29 trymion.blinion i’ch plith, heb arbed y praidd. 30Ac ohonoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyrdraws, i dynnu disgyblion ar eu hôl. 31Am hynny gwyliwch, a chofiwch, #Pen 19:10dros dair blynedd na pheidiais i nos a dydd â rhybuddio pob un ohonoch â dagrau. 32Ac yr awron, frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras ef, yr hwn a all #Pen 9:31adeiladu ychwaneg, a rhoddi i chwi #Eff 1:18etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. 33#1 Sam 12:3Arian, neu aur, neu wisg neb, ni chwenychais: 34Ie, chwi a wyddoch eich hunain, #Pen 18:3; 1 Cor 4:12; 1 Thess 2:9; 2 Thess 3:8ddarfod i’r dwylo hyn wasanaethu i’m cyfreidiau i, ac i’r rhai oedd gyda mi. 35Mi a ddangosais i chwi bob peth, #1 Cor 9:12; 2 Cor 11:9; 12:13; 1 Thess 4:11mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo’r gweiniaid; a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd ohono ef, mai Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn.
36Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe #Pen 7:60; 21:5a roddodd ei liniau i lawr, ac a weddïodd gyda hwynt oll. 37Ac wylo yn dost a wnaeth pawb: a hwy a syrthiasant ar wddf Paul, ac a’i cusanasant ef; 38Gan ofidio yn bennaf am y gair #Ad. 25a ddywedasai efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy. A hwy a’i hebryngasant ef i’r llong.
Dewis Presennol:
Actau’r Apostolion 20: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society