Dyma i chi enghraifft arall: Mae rhai pobl yn gweld un diwrnod yn wahanol i bob diwrnod arall, hynny ydy, yn gysegredig. Ond mae pobl eraill yn ystyried pob diwrnod yr un fath. Dylai pawb fod yn hollol siŵr o’i safbwynt. Mae’r rhai sy’n meddwl fod rhywbeth arbennig am un diwrnod, yn ceisio bod yn ffyddlon i’r Arglwydd. Mae’r rhai sy’n dewis bwyta cig eisiau cydnabod mai’r Arglwydd sy’n ei roi, drwy ddiolch i’r Arglwydd amdano. Ond mae’r rhai sy’n dewis peidio bwyta, hwythau hefyd, yn ceisio bod yn ffyddlon i’r Arglwydd, ac yn rhoi’r diolch i Dduw. Dŷn ni ddim yn byw i’r hunan nac yn marw i’r hunan. Wrth fyw ac wrth farw, dŷn ni eisiau bod yn ffyddlon i’r Arglwydd. Pobl Dduw ydyn ni tra byddwn ni byw a phan fyddwn ni farw. Dyna pam gwnaeth y Meseia farw a dod yn ôl yn fyw – i fod yn Arglwydd ar y rhai sydd wedi marw a’r rhai sy’n dal yn fyw. Felly pam wyt ti mor barod i feirniadu dy gyd-Gristnogion ac edrych i lawr arnyn nhw? Cofia y bydd rhaid i bob un ohonon ni sefyll o flaen llys barn Duw. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw,’ meddai’r Arglwydd, ‘Bydd pob glin yn plygu i mi, a phob tafod yn rhoi clod i Dduw’”
Darllen Rhufeiniaid 14
Gwranda ar Rhufeiniaid 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 14:5-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos