Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 11:1-10

Rhufeiniaid 11:1-10 BNET

Felly dw i’n gofyn eto: Ydy Duw wedi troi cefn ar ei bobl? Nac ydy, wrth gwrs ddim! Israeliad ydw i fy hun cofiwch – un o blant Abraham, o lwyth Benjamin. Felly dydy Duw ddim wedi troi ei gefn ar y bobl oedd wedi’u dewis o’r dechrau. Ydych chi’n cofio beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud? Roedd Elias yn cwyno am bobl Israel, ac yn dweud fel hyn: “Arglwydd, maen nhw wedi lladd dy broffwydi di a dinistrio dy allorau. Fi ydy’r unig un sydd ar ôl, ac maen nhw’n ceisio fy lladd innau hefyd!” Beth oedd ateb Duw iddo? Dyma ddwedodd Duw: “Mae gen i saith mil o bobl eraill sydd heb fynd ar eu gliniau i addoli Baal.” Ac mae’r un peth yn wir heddiw – mae Duw yn ei haelioni wedi dewis cnewyllyn o Iddewon i gael eu hachub. Ac os mai dim ond haelioni Duw sy’n eu hachub nhw, dim beth maen nhw yn ei wneud sy’n cyfri. Petai hynny’n cyfri fyddai Duw ddim yn hael! Dyma beth mae hyn yn ei olygu: Wnaeth pawb yn Israel ddim cael gafael yn beth roedden nhw’n ei geisio mor daer. Ond mae rhai wedi’i gael, sef y rhai mae Duw wedi’u dewis. Mae’r lleill wedi troi’n ystyfnig. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Gwnaeth Duw nhw’n gysglyd, a rhoi iddyn nhw lygaid sy’n methu gweld a chlustiau sydd ddim yn clywed – ac maen nhw’n dal felly heddiw.” A dwedodd y Brenin Dafydd fel hyn: “Gad i’w bwrdd bwyd droi’n fagl ac yn rhwyd, yn drap ac yn gosb iddyn nhw; gad iddyn nhw golli eu golwg a mynd yn ddall, a’u cefnau wedi’u crymu am byth dan y pwysau.”