Ond mae cael perthynas iawn gyda Duw drwy gredu yn dweud: “Paid meddwl: Pwy wnaiff fynd i fyny i’r nefoedd?” (hynny ydy, i ddod â’r Meseia i lawr) neu “Pwy wnaiff fynd i lawr i’r dyfnder” (hynny ydy, i ddod â’r Meseia yn ôl yn fyw). Dyma mae’n ei ddweud: “Mae’r neges yn agos atat ti; mae ar dy wefusau ac yn dy galon di.” (Hynny ydy, y neges dŷn ni’n ei chyhoeddi, sef mai credu ydy’r ffordd): Os wnei di gyffesu ‘â’th wefusau’, “Iesu ydy’r Arglwydd”, a chredu ‘yn dy galon’ fod Duw wedi’i godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw, cei dy achub. Credu yn y galon sy’n dy wneud di’n iawn gyda Duw, a chei dy achub wrth gyffesu hynny’n agored.
Darllen Rhufeiniaid 10
Gwranda ar Rhufeiniaid 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 10:6-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos