Wedyn dangosodd yr angel afon o ddŵr bywiol i mi. Roedd y dŵr yn lân fel grisial ac yn llifo o orsedd Duw a’r Oen i lawr heol fawr y ddinas. Roedd coeden y bywyd yn tyfu bob ochr i’r afon yn rhoi deuddeg cnwd o ffrwythau – cnwd newydd bob mis. Mae dail y goeden yn iacháu’r cenhedloedd. Fydd melltith rhyfel ddim yn bod mwyach. Bydd gorsedd Duw a’r Oen yn y ddinas, a bydd y rhai sy’n ei wasanaethu yn cael gwneud hynny. Cân nhw weld ei wyneb, a bydd ei enw wedi’i ysgrifennu ar eu talcennau. Fydd dim y fath beth â nos, felly fydd ganddyn nhw ddim angen golau lamp, na hyd yn oed golau’r haul. Bydd yr Arglwydd Dduw yn rhoi golau iddyn nhw. Byddan nhw’n teyrnasu am byth bythoedd.
Darllen Datguddiad 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Datguddiad 22:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos