Mae’r ARGLWYDD yn sicrhau llwyddiant yr un sy’n byw i’w blesio. Bydd yn baglu weithiau, ond fydd e ddim yn syrthio ar ei wyneb, achos mae’r ARGLWYDD yn gafael yn ei law. Rôn i’n ifanc ar un adeg, ond bellach dw i mewn oed. Dw i erioed wedi gweld rhywun sy’n byw yn iawn yn cael ei siomi gan Dduw, na’i blant yn gorfod chwilio am fwyd. Mae bob amser yn hael ac yn benthyg i eraill, ac mae ei blant yn cael eu bendithio. Tro dy gefn ar ddrwg a gwna beth sy’n dda, a byddi’n saff am byth. Mae’r ARGLWYDD yn caru beth sy’n gyfiawn, a dydy e byth yn siomi’r rhai sy’n ffyddlon iddo. Maen nhw’n saff bob amser; ond bydd plant y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd. Bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth. Mae pobl dduwiol yn dweud pethau doeth, ac yn hybu cyfiawnder. Cyfraith Duw sy’n rheoli eu ffordd o feddwl, a dŷn nhw byth yn llithro. Mae’r rhai drwg yn disgwyl am gyfle i ymosod ar y sawl sy’n byw yn iawn, yn y gobaith o’i ladd; ond fydd yr ARGLWYDD ddim yn gadael iddo syrthio i’w dwylo; fydd e ddim yn cael ei gondemnio yn y llys. Disgwyl am yr ARGLWYDD! Dos y ffordd mae e’n dweud a bydd e’n rhoi’r gallu i ti feddiannu’r tir. Byddi’n gweld y rhai drwg yn cael eu gyrru i ffwrdd. Dw i wedi gweld pobl ddrwg, greulon, yn llwyddo ac ymledu fel coeden ddeiliog yn ei chynefin. Ond wedyn wrth basio heibio, sylwais eu bod wedi diflannu! Rôn i’n chwilio, ond doedd dim sôn amdanyn nhw. Edrych ar y rhai gonest! Noda’r rhai sy’n byw’n gywir! Mae dyfodol i’r rhai sy’n hybu heddwch. Ond bydd y rhai sy’n troseddu yn cael eu dinistrio’n llwyr. Does dim dyfodol i’r rhai drwg. Mae’r ARGLWYDD yn achub y rhai sy’n byw’n gywir, ac yn eu hamddiffyn pan maen nhw mewn trafferthion. Mae’r ARGLWYDD yn eu helpu ac yn eu hachub; mae’n eu hachub o afael pobl ddrwg, am eu bod wedi troi ato i’w hamddiffyn.
Darllen Salm 37
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Salm 37:23-40
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos