O ARGLWYDD, mae dy ofal cariadus yn uwch na’r nefoedd; mae dy ffyddlondeb di y tu hwnt i’r cymylau! Mae dy haelioni di mor gadarn a’r mynyddoedd uchel; mae dy gyfiawnder yn ddwfn fel y moroedd. Ti’n gofalu am bobl ac anifeiliaid, ARGLWYDD. Mae dy ofal cariadus mor werthfawr, O Dduw! Mae’r ddynoliaeth yn saff dan gysgod dy adenydd. Mae pobl yn cael bwyta o’r wledd sydd yn dy dŷ, ac yn cael yfed dŵr dy afon hyfryd di. Ti ydy’r ffynnon sy’n rhoi bywyd; dy olau di sy’n rhoi’r gallu i ni weld. Dal ati i ofalu am y rhai sy’n ffyddlon i ti, ac achub gam y rhai sy’n byw’n gywir.
Darllen Salm 36
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Salm 36:5-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos