Mae mor dda canu mawl i Dduw! Mae’n beth hyfryd rhoi iddo’r mawl mae’n ei haeddu. Mae’r ARGLWYDD yn ailadeiladu Jerwsalem, ac yn casglu pobl Israel sydd wedi bod yn alltudion. Mae e’n iacháu’r rhai sydd wedi torri eu calonnau, ac yn rhwymo’u briwiau. Mae e wedi cyfri’r sêr i gyd, a rhoi enw i bob un ohonyn nhw. Mae’n Meistr ni mor fawr, ac mor gryf! Mae ei ddeall yn ddi-ben-draw! Mae’r ARGLWYDD yn rhoi hyder i’r rhai sy’n cael eu gorthrymu, ond yn bwrw’r rhai drwg i’r llawr. Canwch gân o fawl i’r ARGLWYDD, a chreu alaw i Dduw ar y delyn fach. Mae’n gorchuddio’r awyr gyda chymylau, ac yn rhoi glaw i’r ddaear. Mae’n gwneud i laswellt dyfu ar y mynyddoedd, yn rhoi bwyd i bob anifail gwyllt, ac i gywion y gigfran pan maen nhw’n galw. Dydy cryfder ceffyl ddim yn creu argraff arno, a dydy cyflymder rhedwr ddim yn ei ryfeddu. Y bobl sy’n ei barchu sy’n plesio’r ARGLWYDD; y rhai hynny sy’n rhoi eu gobaith yn ei gariad ffyddlon.
Darllen Salm 147
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Salm 147:1-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos