Wrth afonydd Babilon, dyma ni’n eistedd ac yn wylo wrth gofio am Seion. Dyma ni’n hongian ein telynau ar y coed poplys yno. Roedd y rhai oedd yn ein dal ni’n gaeth eisiau i ni ganu, a’n poenydwyr yn ein piwsio i’w difyrru: “Canwch un o ganeuon Seion i ni!” Sut allen ni ganu caneuon yr ARGLWYDD ar dir estron? Os anghofia i di, Jerwsalem, boed i’m llaw dde gael ei pharlysu. Boed i’m tafod lynu wrth dop fy ngheg petawn i’n anghofio amdanat ti, a phetai Jerwsalem yn ddim pwysicach na phopeth arall sy’n rhoi pleser i mi. Cofia, O ARGLWYDD, beth wnaeth pobl Edom y diwrnod hwnnw pan syrthiodd Jerwsalem. Roedden nhw’n gweiddi, “Chwalwch hi! Chwalwch hi i’w sylfeini!” Babilon hardd, byddi dithau’n cael dy ddinistrio! Bydd yr un fydd yn talu’n ôl i ti ac yn dy drin fel gwnest ti’n trin ni, yn cael ei fendithio’n fawr! Bydd yr un fydd yn gafael yn dy blant di ac yn eu hyrddio nhw yn erbyn y creigiau yn cael ei fendithio’n fawr!
Darllen Salm 137
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Salm 137:1-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos