Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 119:143-176

Salm 119:143-176 BNET

Pan dw i mewn trafferthion ac mewn trybini, mae dy orchmynion di’n hyfrydwch pur i mi. Mae dy reolau cyfiawn yn para am byth; rho’r gallu i mi eu deall, i mi gael byw. Dw i’n gweiddi arnat ti o waelod calon! “Ateb fi, ARGLWYDD, er mwyn i mi gadw dy ddeddfau.” Dw i’n gweiddi arnat ti, “Achub fi, er mwyn i mi gadw dy reolau.” Dw i’n codi cyn iddi wawrio i alw am dy help! Dy eiriau di sy’n rhoi gobaith i mi! Dw i’n dal yn effro cyn i wylfa’r nos ddechrau, ac yn myfyrio ar dy eiriau. Gwranda arna i, yn unol â dy gariad ffyddlon; O ARGLWYDD, rho fywyd i mi, yn unol â dy gyfiawnder! Mae’r rhai sydd am wneud drwg i mi yn dod yn nes! Maen nhw’n bell iawn o dy ddysgeidiaeth di. Ond rwyt ti bob amser yn agos, ARGLWYDD, ac mae dy orchmynion di i gyd yn wir. Dw i wedi dysgu ers talwm fod dy reolau di yn aros am byth. Edrych fel dw i’n dioddef, ac achub fi! Dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di. Dadlau fy achos a helpa fi! Cadw fi’n saff, fel rwyt wedi addo gwneud. Does gan y rhai drwg ddim gobaith cael eu hachub gen ti; dŷn nhw ddim yn ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau. Rwyt ti mor drugarog, O ARGLWYDD; adfywia fi yn unol â dy gyfiawnder! Mae gen i lawer iawn o elynion yn fy erlid i; ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddeddfau di. Mae gweld pobl heb ffydd yn codi pwys arna i, am eu bod nhw ddim yn cadw dy reolau di. Dw i wrth fy modd hefo dy ofynion! O ARGLWYDD, cadw fi’n saff, fel rwyt wedi addo. Mae popeth rwyt ti’n ddweud yn gwbl ddibynadwy; mae pob un o dy reolau cyfiawn yn para am byth. Mae’r awdurdodau wedi fy erlid i ar gam! Ond mae dy eiriau di’n rhoi gwefr i mi. Mae dy eiriau di yn fy ngwneud i mor hapus, fel rhywun sydd wedi dod o hyd i drysor gwerthfawr. Dw i’n casáu ac yn ffieiddio diffyg ffydd; ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di. Dw i’n dy addoli di saith gwaith y dydd am dy fod ti’n dyfarnu’n gyfiawn. Mae’r rhai sy’n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff; does dim yn gwneud iddyn nhw faglu. Dw i’n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, O ARGLWYDD! Dw i’n cadw dy orchmynion di; dw i’n ufuddhau i dy ddeddfau di ac yn eu caru nhw’n fawr. Dw i’n ufuddhau i dy orchmynion a dy ddeddfau di. Ti’n gwybod yn iawn am bopeth dw i’n wneud. Gwranda arna i’n pledio o dy flaen di, O ARGLWYDD; helpa fi i ddeall, fel rwyt ti’n addo gwneud. Dw i’n cyflwyno beth dw i’n ofyn amdano i ti. Achub fi fel rwyt wedi addo. Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau, am dy fod ti’n dysgu dy ddeddfau i mi. Bydd fy nhafod yn canu am dy eiriau, am fod dy reolau di i gyd yn gyfiawn. Estyn dy law i’m helpu. Dw i wedi dewis dilyn dy orchmynion di. Dw i’n dyheu i ti fy achub i, ARGLWYDD; mae dy ddysgeidiaeth di’n hyfrydwch pur i mi. Gad i mi fyw, i mi gael dy foli! gad i dy reolau di fy helpu i. Dw i wedi crwydro fel dafad oedd ar goll. Tyrd i edrych amdana i! Dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.