Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 119:143-176

Salm 119:143-176 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daeth cyfyngder a gofid ar fy ngwarthaf, ond yr wyf yn ymhyfrydu yn dy orchmynion. Y mae dy farnedigaethau di'n gyfiawn byth; rho imi ddeall, fel y byddaf fyw. Gwaeddaf â'm holl galon; ateb fi, ARGLWYDD, ac fe fyddaf ufudd i'th ddeddfau. Gwaeddaf arnat ti; gwareda fi, ac fe gadwaf dy farnedigaethau. Codaf cyn y wawr a gofyn am gymorth, a gobeithiaf yn dy eiriau. Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwriaethau'r nos, i fyfyrio ar dy addewid. Gwrando fy llef yn ôl dy gariad; O ARGLWYDD, yn ôl dy farnau adfywia fi. Y mae fy erlidwyr dichellgar yn agosáu, ond y maent yn bell oddi wrth dy gyfraith. Yr wyt ti yn agos, O ARGLWYDD, ac y mae dy holl orchmynion yn wirionedd. Gwn erioed am dy farnedigaethau, i ti eu sefydlu am byth. Edrych ar fy adfyd a gwared fi, oherwydd nid anghofiais dy gyfraith. Amddiffyn fy achos ac achub fi; adfywia fi yn ôl dy addewid. Y mae iachawdwriaeth ymhell oddi wrth y drygionus, oherwydd nid ydynt yn ceisio dy ddeddfau. Mawr yw dy drugaredd, O ARGLWYDD; adfywia fi yn ôl dy farn. Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus, ond eto ni wyrais oddi wrth dy farnedigaethau. Gwelais y rhai twyllodrus, a ffieiddiais am nad ydynt yn cadw dy air. Gwêl fel yr wyf yn caru dy ofynion; O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy gariad. Hanfod dy air yw gwirionedd, ac y mae dy holl farnau cyfiawn yn dragwyddol. Y mae tywysogion yn fy erlid yn ddiachos, ond dy air di yw arswyd fy nghalon. Yr wyf yn llawenhau o achos dy addewid, fel un sy'n cael ysbail fawr. Yr wyf yn casáu ac yn ffieiddio twyll, ond yn caru dy gyfraith di. Seithwaith y dydd yr wyf yn dy foli oherwydd dy farnau cyfiawn. Caiff y rhai sy'n caru dy gyfraith wir heddwch, ac nid oes dim yn peri iddynt faglu. Yr wyf yn disgwyl am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD, ac yn ufuddhau i'th orchmynion. Yr wyf yn cadw dy farnedigaethau ac yn eu caru'n fawr. Yr wyf yn ufudd i'th ofynion a'th farnedigaethau, oherwydd y mae fy holl ffyrdd o'th flaen. Doed fy llef atat, O ARGLWYDD; rho imi ddeall yn ôl dy air. Doed fy neisyfiad atat; gwared fi yn ôl dy addewid. Bydd fy ngwefusau'n tywallt moliant am iti ddysgu i mi dy ddeddfau. Bydd fy nhafod yn canu am dy addewid, oherwydd y mae dy holl orchmynion yn gyfiawn. Bydded dy law yn barod i'm cynorthwyo, oherwydd yr wyf wedi dewis dy ofynion. Yr wyf yn dyheu am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD, ac yn ymhyfrydu yn dy gyfraith. Gad imi fyw i'th foliannu di, a bydded i'th farnau fy nghynorthwyo. Euthum ar gyfeiliorn fel dafad ar goll; chwilia am dy was, oherwydd nid anghofiais dy orchmynion.

Salm 119:143-176 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan dw i mewn trafferthion ac mewn trybini, mae dy orchmynion di’n hyfrydwch pur i mi. Mae dy reolau cyfiawn yn para am byth; rho’r gallu i mi eu deall, i mi gael byw. Dw i’n gweiddi arnat ti o waelod calon! “Ateb fi, ARGLWYDD, er mwyn i mi gadw dy ddeddfau.” Dw i’n gweiddi arnat ti, “Achub fi, er mwyn i mi gadw dy reolau.” Dw i’n codi cyn iddi wawrio i alw am dy help! Dy eiriau di sy’n rhoi gobaith i mi! Dw i’n dal yn effro cyn i wylfa’r nos ddechrau, ac yn myfyrio ar dy eiriau. Gwranda arna i, yn unol â dy gariad ffyddlon; O ARGLWYDD, rho fywyd i mi, yn unol â dy gyfiawnder! Mae’r rhai sydd am wneud drwg i mi yn dod yn nes! Maen nhw’n bell iawn o dy ddysgeidiaeth di. Ond rwyt ti bob amser yn agos, ARGLWYDD, ac mae dy orchmynion di i gyd yn wir. Dw i wedi dysgu ers talwm fod dy reolau di yn aros am byth. Edrych fel dw i’n dioddef, ac achub fi! Dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di. Dadlau fy achos a helpa fi! Cadw fi’n saff, fel rwyt wedi addo gwneud. Does gan y rhai drwg ddim gobaith cael eu hachub gen ti; dŷn nhw ddim yn ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau. Rwyt ti mor drugarog, O ARGLWYDD; adfywia fi yn unol â dy gyfiawnder! Mae gen i lawer iawn o elynion yn fy erlid i; ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddeddfau di. Mae gweld pobl heb ffydd yn codi pwys arna i, am eu bod nhw ddim yn cadw dy reolau di. Dw i wrth fy modd hefo dy ofynion! O ARGLWYDD, cadw fi’n saff, fel rwyt wedi addo. Mae popeth rwyt ti’n ddweud yn gwbl ddibynadwy; mae pob un o dy reolau cyfiawn yn para am byth. Mae’r awdurdodau wedi fy erlid i ar gam! Ond mae dy eiriau di’n rhoi gwefr i mi. Mae dy eiriau di yn fy ngwneud i mor hapus, fel rhywun sydd wedi dod o hyd i drysor gwerthfawr. Dw i’n casáu ac yn ffieiddio diffyg ffydd; ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di. Dw i’n dy addoli di saith gwaith y dydd am dy fod ti’n dyfarnu’n gyfiawn. Mae’r rhai sy’n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff; does dim yn gwneud iddyn nhw faglu. Dw i’n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, O ARGLWYDD! Dw i’n cadw dy orchmynion di; dw i’n ufuddhau i dy ddeddfau di ac yn eu caru nhw’n fawr. Dw i’n ufuddhau i dy orchmynion a dy ddeddfau di. Ti’n gwybod yn iawn am bopeth dw i’n wneud. Gwranda arna i’n pledio o dy flaen di, O ARGLWYDD; helpa fi i ddeall, fel rwyt ti’n addo gwneud. Dw i’n cyflwyno beth dw i’n ofyn amdano i ti. Achub fi fel rwyt wedi addo. Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau, am dy fod ti’n dysgu dy ddeddfau i mi. Bydd fy nhafod yn canu am dy eiriau, am fod dy reolau di i gyd yn gyfiawn. Estyn dy law i’m helpu. Dw i wedi dewis dilyn dy orchmynion di. Dw i’n dyheu i ti fy achub i, ARGLWYDD; mae dy ddysgeidiaeth di’n hyfrydwch pur i mi. Gad i mi fyw, i mi gael dy foli! gad i dy reolau di fy helpu i. Dw i wedi crwydro fel dafad oedd ar goll. Tyrd i edrych amdana i! Dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.

Salm 119:143-176 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Adfyd a chystudd a’m goddiweddasant; a’th orchmynion oedd fy nigrifwch. Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf. Llefais â’m holl galon; clyw fi, O ARGLWYDD: dy ddeddfau a gadwaf. Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau. Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais. Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di. Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: ARGLWYDD, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau. Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di. Tithau, ARGLWYDD, wyt agos; a’th holl orchmynion sydd wirionedd. Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd. Gwêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith. Dadlau fy nadl, a gwared fi: bywha fi yn ôl dy air. Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di. Dy drugareddau, ARGLWYDD, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau. Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau. Gwelais y troseddwyr, a gresynais; am na chadwent dy air di. Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion: ARGLWYDD, bywha fi yn ôl dy drugarowgrwydd. Gwirionedd o’r dechreuad yw dy air; a phob un o’th gyfiawn farnedigaethau a bery yn dragywydd. Tywysogion a’m herlidiasant heb achos: er hynny fy nghalon a grynai rhag dy air di. Llawen ydwyf fi oblegid dy air, fel un yn cael ysglyfaeth lawer. Celwydd a gaseais, ac a ffieiddiais: a’th gyfraith di a hoffais. Seithwaith yn y dydd yr ydwyf yn dy glodfori; oherwydd dy gyfiawn farnedigaethau. Heddwch mawr fydd i’r rhai a garant dy gyfraith: ac nid oes dramgwydd iddynt. Disgwyliais wrth dy iachawdwriaeth di, O ARGLWYDD; a gwneuthum dy orchmynion. Fy enaid a gadwodd dy dystiolaethau; a hoff iawn gennyf hwynt. Cedwais dy orchmynion a’th dystiolaethau: canys y mae fy holl ffyrdd ger dy fron di. Nesaed fy ngwaedd o’th flaen, ARGLWYDD: gwna i mi ddeall yn ôl dy air. Deued fy ngweddi ger dy fron: gwared fi yn ôl dy air. Fy ngwefusau a draetha foliant, pan ddysgech i mi dy ddeddfau. Fy nhafod a ddatgan dy air: oherwydd dy holl orchmynion sydd gyfiawnder. Bydded dy law i’m cynorthwyo: oherwydd dy orchmynion di a ddewisais. Hiraethais, O ARGLWYDD, am dy iachawdwriaeth; a’th gyfraith yw fy hyfrydwch. Bydded byw fy enaid, fel y’th folianno di; a chynorthwyed dy farnedigaethau fi. Cyfeiliornais fel dafad wedi colli: cais dy was; oblegid nid anghofiais dy orchmynion.