Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salm 116

116
Rhywun wedi’i achub rhag marw yn moli Duw
1Dw i wir yn caru’r ARGLWYDD
am ei fod yn gwrando ar fy ngweddi.
2Mae e’n troi i wrando arna i
a dw i’n mynd i ddal ati i alw arno bob amser.
3Roedd rhaffau marwolaeth wedi’u rhwymo amdana i;
roedd ofn y bedd wedi gafael ynof fi.
Rôn i mewn helbul! Roedd fy sefyllfa’n druenus!
4A dyma fi’n galw ar yr ARGLWYDD,
“O ARGLWYDD, plîs, achub fi!”
5Mae’r ARGLWYDD mor hael a charedig;
ydy, mae ein Duw ni mor drugarog.
6Mae’r ARGLWYDD yn amddiffyn pobl gyffredin;
achubodd fi pan oeddwn i’n teimlo mor isel.
7Ond bellach dw i’n gallu ymlacio eto.
Mae’r ARGLWYDD wedi achub fy ngham!
8Wyt, rwyt ti wedi achub fy mywyd i,
cymryd y dagrau i ffwrdd,
a’m cadw i rhag baglu.
9Dw i’n mynd i fyw’n ffyddlon i’r ARGLWYDD
ar dir y byw.
10Rôn i’n credu ynddo pan ddwedais,
“Dw i’n diodde’n ofnadwy,”
11ond yna dweud mewn panig,
“Alla i ddim trystio unrhyw un.”
12Sut alla i dalu nôl i’r ARGLWYDD
am fod mor dda tuag ata i?
13Dyma offrwm o win i ddiolch iddo am fy achub,
a dw i am alw ar enw’r ARGLWYDD.
14Dw i am gadw fy addewidion i’r ARGLWYDD
o flaen ei bobl.
15Mae bywyd#116:15 Hebraeg, “marwolaeth”. Gellid cyfieithu’r adnod, “Mae marwolaeth pob un o’i bobl ffyddlon yn gostus yng ngolwg yr ARGLWYDD” (cf. Salm 72:14). pob un o’i bobl ffyddlon
yn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD.
16Plîs, ARGLWYDD,
dw i wir yn un o dy weision
ac yn blentyn i dy forwyn.
Rwyt ti wedi datod y clymau oedd yn fy rhwymo i.
17Dw i’n cyflwyno offrwm i ddiolch i ti
ac yn galw ar enw’r ARGLWYDD.
18Dw i am gadw fy addewidion i’r ARGLWYDD
o flaen y bobl sy’n ei addoli
19yn ei deml yn Jerwsalem.
Haleliwia!

Dewis Presennol:

Salm 116: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda