Mae’n gas gan yr ARGLWYDD glorian dwyllodrus, ond mae defnyddio pwysau cywir wrth ei fodd. Mae snobyddiaeth yn arwain at gywilydd; pobl wylaidd ydy’r rhai doeth. Mae gonestrwydd yn arwain y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn, ond mae twyll yn dinistrio’r rhai sy’n twyllo. Fydd cyfoeth yn dda i ddim ar ddydd y farn, ond mae byw yn iawn yn achub bywyd. Mae cyfiawnder rhywun gonest yn dangos y ffordd iawn iddo, ond mae’r un sy’n gwneud drwg yn syrthio o achos ei ddrygioni. Mae cyfiawnder rhywun gonest yn ei achub ond mae’r un sy’n twyllo yn cael ei ddal gan ei driciau. Pan mae rhywun drwg yn marw, dyna ni – does dim gobaith; dydy’r cyfoeth oedd ganddo yn dda i ddim bellach. Mae’r cyfiawn yn cael ei achub rhag helyntion, a’r un sy’n gwneud drwg yn gorfod cymryd ei le! Mae’r annuwiol yn dinistrio pobl gyda’i eiriau, ond mae’r cyfiawn yn deall hynny ac yn cael ei arbed. Pan mae’r cyfiawn yn llwyddo mae’r ddinas wrth ei bodd; mae gweiddi llawen ynddi pan mae’r rhai drwg yn cael eu dinistrio. Mae dinas yn ffynnu pan mae pobl dda yn cael eu bendithio, ond mae geiriau pobl ddrwg yn ei dinistrio hi. Does dim sens gan rywun sy’n bychanu pobl eraill; mae’r person call yn cadw’n dawel. Mae’r un sy’n hel clecs yn bradychu cyfrinach, ond mae ffrind go iawn yn cadw cyfrinach. Heb arweiniad clir mae gwlad yn methu; mae llwyddiant yn dod gyda digon o gyngor doeth. Mae gwarantu benthyciad i rywun dieithr yn gofyn am drwbwl; gwell bod yn saff a gwrthod.
Darllen Diarhebion 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 11:1-15
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos