Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nahum 2

2
Cwymp Ninefe
1Ninefe, mae’r ‘chwalwr’ yn dod i ymosod!
“Gosod filwyr i amddiffyn dy waliau!”
“Gwylia’r ffordd! Gwna dy hun yn barod!
Casgla dy rym milwrol!”
2(Mae’r ARGLWYDD yn adfer anrhydedd ei bobl –
gwinwydden Jacob, ac Israel hefyd.
Roedd fandaliaid wedi dod a’i dinistrio,
a difetha ei changhennau.)
3Mae tarianau ei filwyr yn goch,
arwyr sy’n gwisgo ysgarlad;
Mae’r cerbydau dur fel fflamau o dân
yn barod i ymosod,
a’r gwaywffyn yn cael eu chwifio.
4Mae’r cerbydau’n rhuthro’n wyllt drwy’r strydoedd,
ac yn rasio yn ôl ac ymlaen drwy’r sgwâr.
Maen nhw’n fflachio fel ffaglau tân,
ac yn gwibio fel mellt.
5Mae’n galw’i swyddogion i ymosod;
maen nhw’n baglu wrth wthio yn eu blaenau,
yn rhuthro, hyrddio at y wal,
a chodi sgrîn amddiffyn i gysgodi dani.
6Mae’r llifddorau’n agor
a’r palas ar fin syrthio.
7Y frenhines yn cael ei stripio a’i chymryd i’r gaethglud,
a’i morynion yn cŵan fel colomennod,
a galaru gan guro eu bronnau.
8Mae Ninefe fel argae wedi torri –
mae pawb yn dianc ohoni!
“Stopiwch! Stopiwch!” –
ond does neb yn troi yn ôl.
9“Cymerwch yr arian! Cymerwch yr aur!”
Mae trysorau Ninefe’n ddiddiwedd;
mae pob math o bethau gwerthfawr ynddi!
10Distryw, difrod, a dinistr!
Calonnau’n toddi, gliniau’n crynu,
lwynau gwan, wynebau gwelw!
11Beth sydd wedi digwydd i ffau’r llewod?
Ble mae’r llewod ifanc i gael eu bwydo?
Byddai’r llew a’r llewes yn cerdded yno,
a’u cenawon yn saff, a neb yn eu tarfu.
12Ble mae’r llew oedd yn rhwygo’i ysglyfaeth –
ei ladd i’w lewesau a’i roi i’w rai bach?
Roedd ei ogof yn llawn ysglyfaeth
a’i ffau’n llawn cnawd wedi’i ddryllio.
13“Dw i’n mynd i ddelio gyda ti,”
–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.
“Bydda i’n llosgi dy gerbydau’n llwyr;
bydd dy ‘lewod ifanc’ yn marw’n y frwydr.
Dw i’n mynd i gael gwared â’th ysglyfaeth o’r tir,
a fydd neb eto’n clywed llais dy negeswyr.”

Dewis Presennol:

Nahum 2: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda