Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 9

9
Iesu’n anfon allan y deuddeg
(Mathew 10:5-15; Marc 6:7-13)
1Galwodd Iesu y deuddeg disgybl at ei gilydd, a rhoi nerth ac awdurdod iddyn nhw fwrw allan gythreuliaid a iacháu pobl. 2Yna anfonodd nhw allan i gyhoeddi bod Duw yn teyrnasu, ac i iacháu pobl. 3Dwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd gyda chi – dim ffon, dim bag teithio, dim bwyd, dim arian, dim hyd yn oed dillad sbâr. 4Pan gewch groeso yng nghartre rhywun, arhoswch yno nes byddwch chi’n gadael y dre. 5Os na chewch chi groeso yn rhywle, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael y dref honno. Bydd hynny’n arwydd o farn Duw arnyn nhw!” 6Felly i ffwrdd â nhw i deithio o un pentref i’r llall gan gyhoeddi’r newyddion da a iacháu pobl ym mhobman.
Herod yn poeni
(Mathew 14:1-12; Marc 6:14-29)
7Clywodd y llywodraethwr Herod#9:7 Herod: Herod Antipas, mab Herod Fawr. am y cwbl oedd yn digwydd. Roedd mewn penbleth, am fod rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr oedd wedi dod yn ôl yn fyw. 8Roedd eraill yn dweud mai’r proffwyd Elias#9:8 Elias: Roedd yr Iddewon yn disgwyl i’r proffwyd Elias ddod i baratoi’r ffordd ar gyfer y Meseia. oedd wedi dod, ac eraill eto’n meddwl mai un o broffwydi’r gorffennol oedd wedi dod yn ôl yn fyw. 9“Torrais ben Ioan i ffwrdd,” meddai Herod, “felly, pwy ydy hwn dw i’n clywed y pethau yma amdano?” Roedd ganddo eisiau gweld Iesu.
Iesu’n bwydo’r pum mil
(Mathew 14:13-21; Marc 6:30-44; Ioan 6:1-14)
10Pan ddaeth yr apostolion yn ôl, dyma nhw’n dweud wrth Iesu beth roedden nhw wedi’i wneud. Yna aeth Iesu â nhw i ffwrdd ar eu pennau’u hunain, i dref o’r enw Bethsaida. 11Ond clywodd y tyrfaoedd ble roedd wedi mynd, a’i ddilyn yno. Dyma Iesu’n eu croesawu ac yn siarad â nhw am Dduw yn teyrnasu, a iacháu y rhai ohonyn nhw oedd yn sâl.
12Yn hwyr yn y p’nawn dyma’r deuddeg disgybl yn dod ato a dweud wrtho, “Anfon y dyrfa i ffwrdd, iddyn nhw fynd i’r pentrefi sydd o gwmpas i gael llety a bwyd. Mae’r lle yma yn anial.”
13Ond dwedodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.” “Dim ond pum torth fach#9:13 torth fach: Torth fach gron fflat, mae’n debyg. a dau bysgodyn sydd gynnon ni,” medden nhw. “Wyt ti’n disgwyl i ni fynd i brynu bwyd i’r bobl yma i gyd?” 14(Roedd tua pum mil o ddynion yno!) Dyma Iesu’n dweud wrth ei ddisgyblion, “Gwnewch iddyn nhw eistedd mewn grwpiau o tua hanner cant.” 15Dyma’r disgyblion yn gwneud hynny, ac eisteddodd pawb. 16Wedyn dyma Iesu’n cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a’i roi i’w ddisgyblion i’w rannu i’r bobl. 17Cafodd pawb ddigon i’w fwyta, a dyma nhw’n casglu deuddeg llond basged o dameidiau oedd dros ben.
Datganiad Pedr
(Mathew 16:13-28; Marc 8:27–9:1)
18Un tro pan oedd Iesu wedi bod yn gweddïo ar ei ben ei hun, aeth at ei ddisgyblion a gofyn iddyn nhw, “Pwy mae’r bobl yn ei ddweud ydw i?”
19Dyma nhw’n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto’n dweud fod un o’r proffwydi ers talwm wedi dod yn ôl yn fyw.”
20“Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi’n ddweud ydw i?”
Atebodd Pedr, “Meseia Duw.”
21Ond dyma Iesu’n pwyso’n drwm arnyn nhw i beidio dweud wrth neb. 22Dwedodd wrthyn nhw, “Mae’n rhaid i mi, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Bydd yr arweinwyr, y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn fy ngwrthod i. Bydda i’n cael fy lladd, ond yna’n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.”
23Yna dwedodd wrth bawb oedd yno: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill#9:23 aberthu eu hunain dros eraill: Groeg, “godi eu croes”. bob dydd, a cherdded yr un llwybr â mi. 24Bydd y rhai sy’n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli’r bywyd go iawn, ond y rhai sy’n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i yn diogelu bywyd go iawn. 25Beth ydy’r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i’w gynnig, a cholli eich hunan? 26Pawb sydd â chywilydd ohono i a beth dw i’n ddweud, bydd gen i, Fab y Dyn, gywilydd ohonyn nhw pan fydda i’n dod yn ôl yn fy holl ysblander, sef ysblander y Tad a’i angylion sanctaidd. 27Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy’n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Duw’n teyrnasu.”
Y Gweddnewidiad
(Mathew 17:1-8; Marc 9:2-8)
28Tuag wythnos ar ôl iddo ddweud hyn, aeth Iesu i weddïo i ben mynydd, a mynd â Pedr, Iago ac Ioan gydag e. 29Wrth iddo weddïo newidiodd ei olwg, a throdd ei ddillad yn wyn llachar. 30A dyma nhw’n gweld dau ddyn, Moses ac Elias, yn sgwrsio gyda Iesu. 31Roedd hi’n olygfa anhygoel,#9:31 Roedd hi’n olygfa anhygoel: Groeg, “wedi dod i’r golwg mewn ysblander”. ac roedden nhw’n siarad am y ffordd roedd Iesu’n mynd i adael y byd,#9:31 y ffordd roedd Iesu’n mynd i adael y byd: Groeg, “ei exodus”, sef yma, y ffordd roedd e’n mynd i achub pobl drwy ei farwolaeth. hynny ydy beth oedd ar fin digwydd iddo yn Jerwsalem. 32Roedd Pedr a’r lleill wedi bod yn teimlo’n gysglyd iawn, ond dyma nhw’n deffro go iawn pan welon nhw ysblander Iesu a’r ddau ddyn yn sefyll gydag e. 33Pan oedd Moses ac Elias ar fin gadael, dyma Pedr yn dweud wrth Iesu, “Feistr, mae’n dda cael bod yma. Gad i ni godi tair lloches – un i ti, un i Moses ac un i Elias.” (Doedd ganddo ddim syniad wir beth roedd yn ei ddweud!)
34Tra oedd yn dweud hyn, dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o’u cwmpas. Roedden nhw wedi dychryn wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r cwmwl. 35A dyma lais yn dod o’r cwmwl a dweud, “Fy Mab i ydy hwn – yr un dw i wedi’i ddewis. Gwrandwch arno!” 36Ar ôl i’r llais ddweud hyn, roedd Iesu ar ei ben ei hun unwaith eto. Dyma’r lleill yn cadw’n dawel am y peth – ddwedon nhw ddim wrth neb bryd hynny am beth roedden nhw wedi’i weld.
Iacháu bachgen oedd ag ysbryd drwg ynddo
(Mathew 17:14-18; Marc 9:14-27)
37Y diwrnod wedyn, pan ddaethon nhw i lawr o’r mynydd, daeth tyrfa fawr i’w gyfarfod. 38Dyma ryw ddyn yn y dyrfa yn gweiddi ar Iesu, “Athro, dw i’n crefu arnat ti i edrych ar fy mab i – dyma fy unig blentyn i! 39Mae yna ysbryd yn gafael ynddo’n aml, ac yn sydyn mae’n sgrechian; wedyn mae’r ysbryd yn gwneud iddo gael ffit nes ei fod yn glafoerio. Dydy’r ysbryd prin yn gadael llonydd iddo! Mae’n ei ddinistrio! 40Rôn i’n crefu ar dy ddisgyblion i’w fwrw allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.”
41“Pam dych chi mor ystyfnig ac amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i’n mynd i aros gyda chi a’ch dioddef chi? Tyrd â dy fab yma.”
42Wrth i’r bachgen ddod ato dyma’r cythraul yn ei fwrw ar lawr mewn ffit epileptig. Ond dyma Iesu’n ceryddu’r ysbryd drwg, iacháu’r bachgen a’i roi yn ôl i’w dad. 43Roedd pawb wedi’u syfrdanu wrth weld nerth Duw ar waith.
Iesu’n siarad am ei farwolaeth eto
(Mathew 17:22,23; Marc 9:30-32)
Tra oedd pawb wrthi’n rhyfeddu at yr holl bethau roedd Iesu’n eu gwneud, dwedodd wrth ei ddisgyblion, 44“Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio fy mod i wedi dweud hyn: Dw i, Mab y Dyn, yn mynd i gael fy mradychu.” 45Doedd gan y disgyblion ddim syniad am beth roedd e’n sôn. Roedd yn ddirgelwch iddyn nhw, ac roedden nhw’n methu’n lân a deall beth roedd yn ei olygu, ond roedd arnyn nhw ofn gofyn iddo am y peth.
Pwy fydd y pwysica?
(Mathew 18:1-5; Marc 9:33-37,38-40)
46Dyma’r disgyblion yn dechrau dadlau pwy ohonyn nhw oedd y pwysica. 47Roedd Iesu’n gwybod beth oedd yn mynd drwy eu meddyliau, a gosododd blentyn bach i sefyll wrth ei ymyl. 48Yna meddai wrthyn nhw, “Mae pwy bynnag sy’n rhoi croeso i’r plentyn bach yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy’n rhoi croeso i mi yn croesawu’r Un sydd wedi fy anfon i. Mae’r un lleia pwysig ohonoch chi yn bwysig dros ben.”
49“Feistr,” meddai Ioan, “gwelon ni rywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni’n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o’n criw ni.”
50“Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Os ydy rhywun ddim yn eich erbyn chi, mae o’ch plaid chi.”
Pobl Samaria yn ei wrthwynebu
51Dyma Iesu’n cychwyn ar y daith i Jerwsalem, gan fod yr amser yn agosáu iddo fynd yn ôl i’r nefoedd. 52Anfonodd negeswyr o’i flaen, a dyma nhw’n mynd i un o bentrefi Samaria i baratoi ar ei gyfer; 53ond dyma’r bobl yno yn gwrthod rhoi croeso iddo am ei fod ar ei ffordd i Jerwsalem. 54Pan glywodd Iago ac Ioan am hyn, dyma nhw’n dweud wrth Iesu, “Arglwydd, wyt ti am i ni alw tân i lawr o’r nefoedd i’w dinistrio nhw?”#cyfeiriad at 2 Brenhinoedd 1:9-16 55A dyma Iesu’n troi atyn nhw a’u ceryddu nhw am ddweud y fath beth. 56A dyma nhw’n mynd yn eu blaenau i bentref arall.
Y gost o ddilyn Iesu
(Mathew 8:19-22)
57Wrth iddyn nhw gerdded ar hyd y ffordd, dyma rywun yn dweud wrtho, “Dw i’n fodlon dy ddilyn di lle bynnag fyddi di’n mynd!”
58Atebodd Iesu, “Mae gan lwynogod ffeuau ac adar nythod, ond does gen i, Mab y Dyn, ddim lle i orffwys.”
59Dwedodd Iesu wrth rywun arall, “Tyrd, dilyn fi.”
Ond dyma’r dyn yn dweud, “Arglwydd, gad i mi fynd adre i gladdu fy nhad gyntaf.”
60Ond ateb Iesu oedd, “Gad i’r rhai sy’n farw eu hunain gladdu eu meirw; dy waith di ydy cyhoeddi fod Duw yn dod i deyrnasu.”
61Dwedodd rhywun arall wedyn, “Gwna i dy ddilyn di, Arglwydd; ond gad i mi fynd i ffarwelio â’m teulu gyntaf.”
62Atebodd Iesu, “Dydy’r sawl sy’n gafael yn yr aradr ac yn edrych yn ôl ddim ffit i wasanaethu’r Duw sy’n teyrnasu.”

Dewis Presennol:

Luc 9: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda