Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 22:1-9

Josua 22:1-9 BNET

Dyma Josua yn galw llwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw: “Dych chi wedi gwneud popeth wnaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, ei ddweud wrthoch chi, ac wedi gwrando arna i hefyd. Wnaethoch chi ddim troi cefn ar eich pobl, llwythau Israel, o gwbl. Dych chi wedi gwneud beth wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw ei ofyn gynnoch chi. Bellach mae’r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi heddwch i weddill llwythau Israel, fel gwnaeth e addo. Felly gallwch fynd yn ôl adre i’r tir wnaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, ei roi i chi yr ochr arall i afon Iorddonen. “Ond cofiwch gadw’r rheolau a’r deddfau wnaeth Moses eu rhoi i chi. Caru yr ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e’n dweud, cadw ei reolau, bod yn ffyddlon iddo, a rhoi eich hunain yn llwyr i’w addoli â’ch holl galon!” Dyma Josua yn eu bendithio nhw, a’u hanfon nhw i ffwrdd, a dyma nhw’n mynd am adre. (Roedd hanner llwyth Manasse wedi cael tir yn Bashan gan Moses, ac roedd Josua wedi rhoi tir i’r hanner arall i’r gorllewin o afon Iorddonen, gyda gweddill pobl Israel.) Pan anfonodd Josua nhw adre, dyma fe’n eu bendithio nhw: “Ewch adre, a rhannu gyda’ch pobl yr holl gyfoeth dych chi wedi’i gymryd gan eich gelynion – nifer fawr o anifeiliaid, hefyd arian, aur, pres a haearn, a lot fawr o ddillad hefyd.” Felly dyma lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse yn gadael gweddill pobl Israel yn Seilo yn Canaan, a throi am adre i’w tir eu hunain yn Gilead – sef y tir wnaeth yr ARGLWYDD ei roi iddyn nhw drwy Moses.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Josua 22:1-9

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd