Job 41
41
1Alli di ddal y Lefiathan â bachyn pysgota?
Alli di rwymo ei dafod â rhaff?
2Alli di roi cylch yn ei drwyn,
neu wthio bachyn drwy ei ên?
3Fydd e’n pledio’n daer am drugaredd?
Fydd e’n seboni wrth siarad gyda ti?
4Fydd e’n ceisio dod i gytundeb,
ac addo bod yn gaethwas i ti am byth?
5Alli di chwarae gydag e fel aderyn,
neu ei rwymo i ddifyrru dy forynion?
6Fydd pysgotwyr yn bargeinio amdano?
Fydd e’n cael ei rannu rhwng y masnachwyr?
7Alli di drywanu ei groen gyda phicellau,
neu roi bachau pysgota yn ei geg?
8Gafael ynddo, a dychmyga’r frwydr –
fyddet ti ddim yn gwneud yr un peth eto!
9Pam? Am nad oes gobaith ei ddal;
mae hyd yn oed ei olwg yn torri calon rhywun.
10Does neb yn ddigon dewr i ddeffro hwn,
felly pwy sy’n mynd i sefyll yn fy erbyn i?
11Pwy sydd wedi rhoi i mi nes bod dyled arna i iddo?
Fi sydd biau popeth dan y nef!
12Dw i ddim am fod yn dawel am ei goesau,
ei gryfder, a’i gorff gosgeiddig.
13Pwy sy’n gallu tynnu ei gôt oddi arno,
neu drywanu ei arfwisg blethog?
14Pwy sy’n gallu gwthio ei geg ar agor?
Mae’r dannedd sydd o’i chwmpas yn frawychus.
15Mae ei gefn fel rhesi o darianau,
wedi’u cloi i’w gilydd gan sêl.
16Mae un yn cyffwrdd y llall;
maen nhw’n hollol dynn yn erbyn ei gilydd.
17Maen nhw wedi glynu wrth ei gilydd,
a does dim modd eu gwahanu nhw.
18Mae’n fflachio mellt wrth disian.
Mae ei lygaid fel pelydrau’r wawr.
19Mae fflamau yn llifo o’i geg,
a gwreichion yn tasgu ohoni.
20Mae mwg yn dod allan o’i ffroenau
fel crochan berw yn stemio.
21Mae ei anadl yn cynnau marwor,
ac mae fflamau’n dod allan o’i geg.
22Mae ei wddf mor gryf,
a nerth yn llamu allan o’i flaen.
23Mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd;
maen nhw’n dynn amdano, a does dim modd eu symud.
24Mae ei galon yn galed fel y graig,
yn solet fel maen melin.
25Pan mae’n codi mae’r rhai cryfaf yn dychryn;
wrth iddo gynhyrfu maen nhw’n camu’n ôl.
26Dydy ei daro gyda’r cleddyf yn cael dim effaith,
na gwaywffon, na saeth, na phicell.
27Mae’n trin haearn fel gwellt,
a phres fel pren wedi pydru.
28Dydy saethau ddim yn gwneud iddo ffoi,
ac mae cerrig tafl fel us yn ei olwg.
29Mae pastwn fel gwelltyn yn ei daro,
ac mae’n chwerthin ar y cleddyf sy’n clecian.
30Oddi tano mae fel darnau o botyn wedi torri,
ac mae’n gadael ei ôl yn y llaid fel sled ddyrnu.
31Mae’n gwneud i’r dŵr dwfn ferwi fel crochan,
ac i’r môr gorddi fel eli’n cael ei gymysgu.
32Mae’n gadael llwybr gloyw ar ei ôl,
ac mae’r dŵr dwfn yn edrych fel gwallt gwyn.
33Does dim byd tebyg iddo’n fyw ar y ddaear;
creadur sy’n ofni dim byd.
34Mae’n edrych i lawr ar bob anifail cryf;
mae’n frenin ar bopeth balch.”
Dewis Presennol:
Job 41: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023