Barnwyr 21
21
Gwragedd i ddynion Benjamin
1Pan oedden nhw yn Mitspa, roedd pobl Israel wedi tyngu llw, “Fydd dim un ohonon ni’n gadael i’w ferch briodi dyn o lwyth Benjamin.” 2Felly dyma’r bobl yn mynd i Bethel ac yn eistedd o flaen yr ARGLWYDD, yn beichio crio’n uchel. 3“O ARGLWYDD, Duw Israel, pam mae hyn wedi digwydd? Mae un o lwythau Israel wedi diflannu heddiw!”
4Y bore wedyn, dyma’r bobl yn codi’n gynnar ac yn adeiladu allor. A dyma nhw’n cyflwyno arni aberthau i’w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni’r ARGLWYDD. 5Wedyn dyma nhw’n gofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa? Roedden ni wedi addo ar lw y byddai’n rhaid i unrhyw un wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD gael ei ladd.” 6Roedden nhw’n teimlo mor ddrwg am beth oedd wedi digwydd i lwyth Benjamin. “Heddiw, mae un o’r llwythau wedi’i dorri i ffwrdd o Israel!” medden nhw. 7“Sut allwn ni ddod o hyd i wragedd i’r rhai ohonyn nhw sy’n dal yn fyw? Dŷn ni wedi addo ar lw, o flaen yr ARGLWYDD, i beidio rhoi’n merched ni yn wragedd iddyn nhw.” 8A dyna pam wnaethon nhw ofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa?”
Dyma nhw’n darganfod fod neb o Jabesh yn Gilead#21:8 Jabesh yn Gilead Tref oedd i’r dwyrain o afon Iorddonen, tua 20 milltir i’r de o Lyn Galilea. wedi dod i’r cyfarfod. (9Pan oedden nhw wedi cyfri’r bobl, doedd neb o Jabesh yn Gilead yno.) 10Felly dyma nhw’n anfon 12,000 o filwyr i ymosod ar Jabesh yn Gilead. Y gorchymyn oedd i ladd pawb, gan gynnwys gwragedd a phlant. 11“Lladdwch y dynion a’r bechgyn i gyd, a phob gwraig sydd ddim yn wyryf. Yr unig rai i’w cadw’n fyw ydy’r merched ifanc sy’n wyryfon.” A dyna wnaethon nhw.#21:11 yr unig … wnaethon nhw Dydy’r geiriau yma ddim yn yr Hebraeg, dim ond yn rhai llawysgrifau Groeg. 12Daethon nhw o hyd i bedwar cant o ferched ifanc oedd yn wyryfon yn Jabesh yn Gilead – merched oedd erioed wedi cael rhyw gyda dyn. A dyma nhw’n mynd â’r merched hynny’n ôl i’r gwersyll yn Seilo yn Canaan.
13Wedyn, dyma bobl Israel yn cynnig telerau heddwch i ddynion Benjamin oedd wrth Graig Rimmon. 14Felly daeth dynion Benjamin yn ôl, a dyma bobl Israel yn rhoi’r merched o Jabesh yn Gilead oedd wedi’u harbed iddyn nhw. Ond doedd dim digon o ferched iddyn nhw i gyd. 15Roedd y bobl yn dal i deimlo mor ddrwg am beth oedd wedi digwydd i lwyth Benjamin – roedd yr ARGLWYDD wedi gadael bwlch yn Israel. 16A dyma’r arweinwyr yn gofyn, “Sut ddown ni o hyd i wragedd i’r rhai sydd ar ôl? Mae merched llwyth Benjamin i gyd wedi’u lladd. 17Mae’n rhaid cadw’r llwyth i fynd. Allwn ni ddim colli llwyth cyfan o Israel. 18Ond allwn ni ddim rhoi’n merched ni yn wragedd iddyn nhw chwaith.” (Roedd pobl Israel wedi tyngu llw a chyhoeddi melltith ar unrhyw un fyddai’n rhoi gwraig i ddyn o lwyth Benjamin.)
19Yna dyma nhw’n dweud, “Mae yna Ŵyl i’r ARGLWYDD yn cael ei chynnal yn Seilo bob blwyddyn. Mae’r Ŵyl yn cael ei chynnal i’r gogledd o Bethel ac i’r de o Lebona, ac i’r dwyrain o’r ffordd fawr sy’n rhedeg o Bethel i Sichem.” 20Felly dyma nhw’n dweud wrth ddynion Benjamin, “Ewch yno i guddio yn y gwinllannoedd. 21Pan fydd merched Seilo yn dod allan i ddawnsio, gallwch i gyd neidio allan a gafael mewn merch, ac wedyn mynd â nhw gyda chi adre i dir Benjamin. 22Pan fydd tadau a brodyr y merched yn dod aton ni i gwyno, byddwn ni’n dweud wrthyn nhw, ‘Plîs gadwch lonydd iddyn nhw. Wnaethon ni ddim llwyddo i gael gwraig i bob un ohonyn nhw drwy ymosod ar Jabesh yn Gilead. A wnaethoch chi ddim rhoi’ch merched yn wirfoddol iddyn nhw, felly dych chi ddim yn euog o dorri’ch llw.’”
23Felly dyna wnaeth dynion Benjamin. Dyma nhw’n cipio dau gant o’r merched oedd yn dawnsio, a’u cymryd nhw’n wragedd iddyn nhw’u hunain. Wedyn aethon nhw yn ôl adre i’w tiroedd eu hunain, ailadeiladu’r trefi, a setlo i lawr unwaith eto. 24A dyma weddill pobl Israel hefyd yn mynd yn ôl adre i’w tiroedd nhw.
25Doedd dim brenin yn Israel yr adeg yna. Roedd pawb yn gwneud beth roedden nhw’n feddwl oedd yn iawn.#Barnwyr 17:6; 18:1
Dewis Presennol:
Barnwyr 21: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023