Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 9:8-21

Eseia 9:8-21 BNET

Dyma’r neges anfonodd y Meistr yn erbyn Jacob, a dyna ddigwyddodd i Israel. Roedd y bobl i gyd yn cydnabod hynny – Effraim a’r rhai sy’n byw yn Samaria. Roedden nhw’n falch ac yn ystyfnig, ac yn honni: “Mae’r blociau pridd wedi syrthio, ond byddwn yn ailadeiladu hefo cerrig nadd! Mae’r coed sycamor wedi’u torri i lawr, ond gadewch i ni dyfu cedrwydd yn eu lle!” Yna, gadawodd yr ARGLWYDD i elynion Resin ei gorchfygu hi. Roedd e wedi arfogi ei gelynion – daeth Syria o’r dwyrain a Philistia o’r gorllewin; roedd eu cegau’n llydan agored, a dyma nhw’n llyncu tir Israel. Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, roedd yn dal yn eu herbyn nhw. Dydy’r bobl ddim wedi troi’n ôl at yr un wnaeth eu taro nhw; dŷn nhw ddim wedi ceisio’r ARGLWYDD hollbwerus. Felly bydd yr ARGLWYDD yn torri pen a chynffon Israel, y gangen balmwydd a’r frwynen ar yr un diwrnod. Yr arweinwyr a’r bobl bwysig – nhw ydy’r pen; y proffwydi sy’n dysgu celwydd – nhw ydy’r gynffon. Mae’r arweinwyr wedi camarwain, a’r rhai sy’n eu dilyn wedi llyncu’r cwbl. Dyna pam nad ydy’r ARGLWYDD yn hapus gyda’r bobl ifanc; dydy e ddim yn gallu cysuro’r plant amddifad a’r gweddwon. Maen nhw i gyd yn annuwiol ac yn ddrwg; maen nhw i gyd yn dweud pethau dwl. Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, roedd yn dal yn eu herbyn nhw. Mae drygioni yn llosgi fel tân, ac yn dinistrio’r drain a’r mieri; mae’n llosgi drwy ddrysni’r coed nes bod y mwg yn codi’n golofnau. Pan mae’r ARGLWYDD hollbwerus wedi digio, mae’r wlad yn llosgi. Mae’r bobl fel tanwydd, a does neb yn poeni am neb arall. Maen nhw’n torri cig fan yma, ond yn dal i newynu; maen nhw’n bwyta fan acw ond ddim yn cael digon. Maen nhw’n brathu ac anafu ei gilydd – Manasse’n ymosod ar Effraim ac Effraim ar Manasse, a’r ddau yn ymladd yn erbyn Jwda!