Byddi wedi dy sylfaenu ar gyfiawnder, a fyddi di ddim yn cael dy orthrymu. Fydd dim rhaid i ti fod ag ofn, a fydd dychryn ddim yn dod yn agos atat ti. Os bydd rhywun eisiau ymladd hefo ti, nid fi fydd tu ôl i hynny: bydd pwy bynnag sydd eisiau ymladd hefo ti yn syrthio, am mai ti wyt ti. Os fi wnaeth greu’r gof sy’n chwythu’r tân marwor gyda’i fegin, i wneud offer ar gyfer ei waith; fi hefyd sy’n creu’r dinistriwr i ddinistrio. Ond fydd yr arfau sydd wedi’u llunio i dy daro di ddim yn llwyddo, a bydd y rhai sy’n codi i dystio yn dy erbyn yn cael eu condemnio. Dyna ydy etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, a’r hyn dw i wedi’i wneud iddyn nhw.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
Darllen Eseia 54
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 54:14-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos