Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 34

34
Barnu’r gwledydd i gyd
1Dewch yma, chi wledydd, i wrando!
Gwrandwch ar hyn, chi bobloedd y byd!
Boed i’r ddaear a phawb arni wrando –
y byd, a phopeth sydd ynddo.
2Mae’r ARGLWYDD wedi digio gyda’r gwledydd;
mae’n wyllt gyda’u holl fyddinoedd,
a bydd yn eu dinistrio a’u lladd nhw.
3Bydd y rhai gaiff eu lladd yn cael eu taflu allan –
bydd y drewdod yn ofnadwy
a bydd y mynyddoedd wedi’u trochi â’u gwaed.
4Bydd y sêr i gyd yn diffodd,
a’r awyr yn cael ei rholio fel sgrôl.
Bydd y sêr i gyd yn syrthio
fel dail yn disgyn o’r winwydden,
neu ffrwyth aeddfed oddi ar goeden ffigys.
5“Bydd fy nghleddyf i’w weld yn yr awyr,
ac edrychwch, bydd yn syrthio ar Edom,
ar y bobl dw i wedi’u dedfrydu i’w difrodi.”#Eseia 63:1-6; Jeremeia 49:7-22; Eseciel 25:12-14; 35:1-15; Amos 1:11-12; Obadeia 1-14; Malachi 1:2-5
6Mae’r ARGLWYDD am drochi ei gleddyf mewn gwaed,
a’i fodloni gyda braster anifeiliaid –
gwaed ŵyn a bychod geifr,
a’r braster ar arennau hyrddod.
Ydy, mae’r ARGLWYDD yn cynnal aberth yn Bosra,
a lladdfa yn Edom.
7Bydd ychen gwyllt yn syrthio gyda nhw,
bustych a theirw.
Bydd eu tir wedi socian mewn gwaed,
a’r llawr wedi’i orchuddio gan fraster.
8Mae gan yr ARGLWYDD ddydd i ddial –
mae’n bryd i dalu’r pwyth yn ôl ar ran Seion.
9Bydd afonydd o byg yn gorlifo yn Edom,
a bydd ei phridd yn troi’n lafa.
Bydd ei thir yn troi’n byg sy’n llosgi,
10a fydd y tân ddim yn diffodd ddydd na nos;
bydd mwg yn codi ohono am byth.
Bydd yn gorwedd yn adfeilion am genedlaethau;
fydd neb yn cerdded y ffordd honno byth bythoedd.
11Bydd tylluanod a draenogod yn ei meddiannu;
y dylluan wen a’r gigfran fydd yn nythu yno.
Bydd Duw yn ei mesur i achosi anhrefn
ac yn ei phwyso i’w gwagio.
12I ble’r aeth ei huchelwyr?
Does dim y fath beth â theyrnas ar ôl!
Mae ei harweinwyr i gyd wedi diflannu.
13Bydd drain yn tyfu yn ei phlastai,
danadl a mieri yn ei threfi caerog.
Bydd y wlad yn gartref i siacaliaid,
ac yn dir i’r estrys fyw ynddo.
14Bydd ysbrydion yr anialwch a bwganod yn cyfarfod yno,
a’r gafr-ddemoniaid#Lefiticus 17:7; 2 Cronicl 11:15; Eseia 13:21 yn galw ar ei gilydd.
Yno bydd creaduriaid y nos yn gorffwys ac yn nythu,
15a neidr wenwynig yn gorwedd ar ei hwyau,
i’w deor a gofalu amdanyn nhw.
Bydd adar rheibus hefyd yn casglu yno,
pob un gyda’i gymar.
16Astudiwch a darllenwch sgroliau’r ARGLWYDD,
heb adael dim allan, a heb golli llinell.
Yr ARGLWYDD sydd wedi gorchymyn y cwbl,
a’i ysbryd e sydd wedi’u casglu at ei gilydd.
17Fe sydd wedi rhoi ei siâr i bob un
ac wedi rhannu’r tir rhyngddyn nhw hefo llinyn mesur.
Bydd yn etifeddiaeth iddyn nhw am byth –
byddan nhw’n byw yno ar hyd yr oesoedd.

Dewis Presennol:

Eseia 34: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda