Eseia 20
20
Eseia’n proffwydo cwymp yr Aifft a theyrnas Cwsh
1Roedd hi’r flwyddyn yr anfonodd Sargon, brenin Asyria, ei brif swyddog milwrol i ymosod ar dref Ashdod,#20:1 Ashdod Concrodd y Brenin Sargon II o Asyria dref y Philistiaid yn 711 cc. a’i choncro. 2Dyma’r ARGLWYDD yn siarad gydag Eseia fab Amos, a dweud, “Dos, datod y sachliain oddi amdanat, a thynna dy sandalau i ffwrdd.” A dyma Eseia yn gwneud hynny, a cherdded o gwmpas yn noeth a heb ddim am ei draed.
3Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Arwydd ydy hwn sy’n rhybudd i’r Aifft a theyrnas Cwsh yn nwyrain Affrica:#20:3 Cwsh … Affrica Hebraeg, Cwsh. Teyrnas i’r de o wlad yr Aifft, sef gogledd Swdan heddiw. Fel mae fy ngwas Eseia wedi cerdded o gwmpas am dair blynedd yn noeth a heb ddim am ei draed, 4bydd brenin Asyria yn arwain yr Eifftiaid i ffwrdd, ac yn caethgludo pobl Cwsh – ifanc a hen, yn noeth a heb ddim am eu traed, a’u tinau yn y golwg – bydd yn sarhad ar yr Aifft! 5Byddan nhw’n ddigalon, a bydd ganddyn nhw gywilydd o’r Affricaniaid (y rhai roedden nhw wedi gobeithio ynddyn nhw), a’r Aifft (y rhai roedden nhw’n eu brolio).
6“Bryd hynny, bydd y rhai sy’n byw ar yr arfordir yma yn dweud, ‘Os ydy hyn wedi digwydd i’r Aifft, pa obaith sydd i ni? Roedden ni wedi gobeithio mai nhw fyddai’n ein helpu ni ac yn ein hachub rhag brenin Asyria.’”
Dewis Presennol:
Eseia 20: bnet
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2023