Yn y gorffennol pell roedd Duw wedi siarad gyda’n hynafiaid ni drwy’r proffwydi. Gwnaeth hyn bob yn dipyn ac mewn gwahanol ffyrdd. Ond bellach, yn y cyfnod olaf hwn, mae wedi siarad â ni drwy ei Fab. Mae Duw wedi dewis rhoi popeth sy’n bodoli yn eiddo iddo fe – yr un oedd gyda Duw yn gwneud y bydysawd. Mae holl ysblander Duw yn disgleirio ohono. Mae e’n dangos i ni’n berffaith sut un ydy Duw. Ei awdurdod pwerus e sy’n dal popeth yn y bydysawd gyda’i gilydd! Ar ôl iddo ei gwneud hi’n bosib i bobl gael eu glanhau o’u pechodau, cafodd eistedd yn y nefoedd, yn y sedd anrhydedd ar ochr dde y Duw Mawr ei hun. Roedd wedi’i wneud yn bwysicach na’r angylion. Roedd y teitl roddodd Duw iddo yn dangos ei fod yn bwysicach na nhw.
Darllen Hebreaid 1
Gwranda ar Hebreaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 1:1-4
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos