Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 48

48
Jacob yn bendithio meibion Joseff
1Rywbryd wedyn clywodd Joseff fod ei dad yn sâl. Felly aeth i’w weld gyda’i ddau fab Manasse ac Effraim. 2Pan ddywedwyd wrth Jacob fod ei fab Joseff wedi dod i’w weld, dyma fe’n bywiogi ac yn eistedd i fyny yn ei wely. 3A dyma fe’n dweud wrth Joseff, “Pan oeddwn i yn Lws yng ngwlad Canaan, roedd y Duw sy’n rheoli popeth#48:3 Hebraeg, El Shadai. wedi ymddangos i mi. Bendithiodd fi 4a dweud wrtho i, ‘Dw i’n mynd i wneud yn siŵr dy fod ti’n cael lot fawr o ddisgynyddion. Bydd grŵp o bobloedd yn dod ohonot ti. Dw i’n mynd i roi’r wlad yma i ti a dy ddisgynyddion am byth.’ 5Joseff, bydd dy ddau fab, gafodd eu geni i ti yn yr Aifft cyn i mi ddod yma, yn feibion i mi. Bydd Effraim a Manasse yn cael eu cyfri yn feibion i mi, yn union yr un fath â Reuben a Simeon. 6Bydd y plant eraill sydd gen ti yn aros yn feibion i ti, ond yn cael eu rhestru fel rhai fydd yn etifeddu tir gan eu brodyr.
7“Buodd Rachel farw yng ngwlad Canaan pan oeddwn i ar fy ffordd yn ôl o Padan, ac roeddwn i’n drist iawn. Digwyddodd pan oedden ni’n dal yn reit bell o Effrath. Felly dyma fi’n ei chladdu hi yno, ar y ffordd i Effrath,” (hynny ydy, Bethlehem).
8“Pwy ydy’r rhain?” meddai Jacob pan welodd feibion Joseff. 9“Dyma’r meibion roddodd Duw i mi yma,” meddai Joseff wrth ei dad. A dyma Jacob yn dweud, “Plîs, tyrd â nhw ata i, i mi gael eu bendithio nhw.” 10Doedd Jacob ddim yn gweld yn dda iawn. Roedd wedi colli ei olwg wrth fynd yn hen. Felly dyma Joseff yn mynd â’i feibion yn nes at ei dad, a dyma Jacob yn eu cofleidio nhw a’u cusanu nhw. 11Ac meddai wrth Joseff, “Doeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i’n dy weld di eto. Mae Duw wedi gadael i mi weld dy blant di hefyd!” 12Cymerodd Joseff y bechgyn oddi ar liniau ei dad, ac wedyn ymgrymodd â’i wyneb ar lawr o’i flaen. 13Rhoddodd Joseff Effraim ar yr ochr dde iddo (o flaen llaw chwith Jacob), a Manasse ar yr ochr chwith (o flaen llaw dde Jacob), a mynd â nhw’n nes ato. 14Ond dyma Jacob#48:14 Hebraeg, “Israel”. yn croesi ei freichiau a rhoi ei law dde ar ben Effraim (yr ifancaf o’r ddau) a’i law chwith ar ben Manasse (y mab hynaf). 15A dyma fe’n bendithio Joseff drwy ddweud,
“O Dduw – y Duw roedd fy nhaid Abraham a’m tad Isaac yn ei wasanaethu;
y Duw sydd wedi bod fel bugail i mi ar hyd fy mywyd;
16Yr angel sydd wedi fy amddiffyn i rhag pob drwg
– bendithia’r bechgyn yma.
Cadw fy enw i ac enw fy nhaid Abraham a’m tad Isaac yn fyw drwyddyn nhw.
Gwna nhw yn dyrfa fawr o bobl ar y ddaear.”
17Pan sylwodd Joseff fod ei dad wedi rhoi ei law dde ar ben Effraim, doedd e ddim yn hapus. Felly gafaelodd yn llaw dde ei dad i’w symud o ben Effraim i ben Manasse, 18a dwedodd wrtho, “Na, dad. Hwn ydy’r mab hynaf. Rho dy law dde ar ei ben e.” 19Ond gwrthododd ei dad. “Dw i’n gwybod be dw i’n wneud, fy mab,” meddai. “Bydd hwn hefyd yn dod yn genedl fawr o bobl. Ond bydd ei frawd bach yn fwy nag e. Bydd ei ddisgynyddion e yn tyfu’n llawer iawn o bobloedd gwahanol.” 20Felly pan fendithiodd nhw y diwrnod hwnnw, dwedodd:
“Bydd pobl Israel yn defnyddio dy enw i fendithio eraill:
‘Boed i Dduw dy wneud di fel Effraim a Manasse.’”
Enwodd Effraim gyntaf a Manasse wedyn.
21Wedyn dyma Jacob#48:21 Hebraeg, “Israel”. yn dweud wrth Joseff, “Fel y gweli, dw i ar fin marw. Ond bydd Duw gyda ti, ac yn mynd â ti’n ôl i wlad dy hynafiaid. 22Dw i am roi siâr fwy i ti nag i dy frodyr – sef llethrau mynydd Sichem, a gymerais oddi ar yr Amoriaid gyda’m cleddyf a’m bwa.”

Dewis Presennol:

Genesis 48: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda