A dyma fe’n bendithio Joseff drwy ddweud,
“O Dduw – y Duw roedd fy nhaid Abraham a’m tad Isaac yn ei wasanaethu;
y Duw sydd wedi bod fel bugail i mi ar hyd fy mywyd;
Yr angel sydd wedi fy amddiffyn i rhag pob drwg
– bendithia’r bechgyn yma.
Cadw fy enw i ac enw fy nhaid Abraham a’m tad Isaac yn fyw drwyddyn nhw.
Gwna nhw yn dyrfa fawr o bobl ar y ddaear.”