a dwedodd wrtho, “Na, dad. Hwn ydy’r mab hynaf. Rho dy law dde ar ei ben e.” Ond gwrthododd ei dad. “Dw i’n gwybod be dw i’n wneud, fy mab,” meddai. “Bydd hwn hefyd yn dod yn genedl fawr o bobl. Ond bydd ei frawd bach yn fwy nag e. Bydd ei ddisgynyddion e yn tyfu’n llawer iawn o bobloedd gwahanol.” Felly pan fendithiodd nhw y diwrnod hwnnw, dwedodd: “Bydd pobl Israel yn defnyddio dy enw i fendithio eraill: ‘Boed i Dduw dy wneud di fel Effraim a Manasse.’” Enwodd Effraim gyntaf a Manasse wedyn. Wedyn dyma Jacob yn dweud wrth Joseff, “Fel y gweli, dw i ar fin marw. Ond bydd Duw gyda ti, ac yn mynd â ti’n ôl i wlad dy hynafiaid. Dw i am roi siâr fwy i ti nag i dy frodyr – sef llethrau mynydd Sichem, a gymerais oddi ar yr Amoriaid gyda’m cleddyf a’m bwa.”
Darllen Genesis 48
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 48:18-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos