Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 35

35
Jacob yn mynd yn ôl i Bethel
1Dwedodd Duw wrth Jacob, “Dos i fyny i Bethel i fyw. Gwna allor yno i addoli’r Duw ddaeth atat ti pan oeddet ti’n dianc oddi wrth dy frawd Esau.” 2Felly dyma Jacob yn dweud wrth ei deulu a phawb arall oedd gydag e, “Rhaid i chi gael gwared â’r duwiau eraill sydd gynnoch chi. Ymolchwch a gwisgwch ddillad glân. 3Wedyn gadewch i ni fynd i Bethel. Dw i eisiau codi allor yno i’r Duw wnaeth fy ateb i pan oedd pethau’n anodd arna i. Mae e wedi bod gyda mi bob cam o’r ffordd.” 4Felly dyma nhw’n rhoi’r duwiau eraill oedd ganddyn nhw i Jacob, a’r clustdlysau hefyd. Claddodd Jacob y cwbl dan y dderwen oedd wrth Sichem, 5ac yna dyma nhw’n cychwyn ar eu taith. Roedd Duw wedi creu panig yn y trefi o gwmpas, ac felly wnaeth neb geisio ymosod arnyn nhw.
6Felly dyma Jacob a’r bobl oedd gydag e yn cyrraedd Lws (sef Bethel), yng ngwlad Canaan. 7Cododd allor yno a galw’r lle yn El-bethel,#35:7 h.y. Duw Bethel. am mai dyna ble roedd Duw wedi ymddangos iddo pan oedd yn dianc oddi wrth ei frawd Esau. 8A dyma Debora (sef y forwyn oedd wedi magu Rebeca pan oedd hi’n ferch fach) yn marw yno. Cafodd ei chladdu dan y dderwen oedd islaw Bethel. Felly cafodd y lle ei alw yn Dderwen yr Wylo.#35:8 Hebraeg, Alon-bachŵth.
9A dyma Duw yn ymddangos i Jacob eto, a’i fendithio (ar ôl iddo ddod o Padan-aram). 10Dwedodd Duw wrtho, “Jacob ydy dy enw di, ond fyddi di ddim yn cael dy alw yn Jacob o hyn ymlaen. Israel fydd dy enw di.” Dyna sut cafodd e’r enw Israel. 11Yna dwedodd Duw wrtho, “Fi ydy’r Duw sy’n rheoli popeth.#35:11 Hebraeg El Shadai. Dw i eisiau i ti gael lot o blant. Bydd cenedl – ie, hyd yn oed grŵp o genhedloedd – yn dod ohonot ti. Bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd. 12Ti sydd i gael y tir rois i i Abraham ac Isaac, a bydd yn perthyn i dy ddisgynyddion ar dy ôl di.” 13Wedyn dyma Duw yn gadael y lle ble roedd wedi siarad â Jacob. 14Dyma Jacob yn codi colofn gysegredig ble roedd Duw wedi siarad ag e. Colofn garreg oedd hi, a thywalltodd offrwm o ddiod drosti, ac olew hefyd. 15Galwodd Jacob y lle hwnnw ble roedd Duw wedi siarad ag e yn Bethel.
Rachel yn marw wrth gael plentyn
16Dyma nhw’n teithio ymlaen o Bethel. Roedden nhw’n dal yn eitha pell o Effrath pan ddechreuodd Rachel gael ei babi – ac roedd yr enedigaeth yn galed. 17Pan oedd y sefyllfa ar ei gwaethaf, dyma’r fydwraig yn dweud wrth Rachel, “Paid bod ag ofn. Mae gen ti fab arall ar ei ffordd.” 18A dyma Rachel yn marw. Wrth iddi dynnu ei hanadl olaf, dyma hi’n galw’r plentyn yn Ben-oni;#35:18 h.y. Mab fy nioddefaint. ond galwodd ei dad e yn Benjamin.#35:18 h.y. Mab fy llaw dde. 19Buodd Rachel farw, a chafodd ei chladdu ar ochr y ffordd oedd yn mynd i Effrath (sef Bethlehem). 20Cododd Jacob gofgolofn wrth ei bedd, ac mae yno hyd heddiw – Cofeb Bedd Rachel. 21Teithiodd Israel (sef Jacob) yn ei flaen, a gwersylla yr ochr draw i Migdal-eder.#35:21 Hebraeg, “Tŵr y Praidd”.
Meibion Jacob
(1 Cronicl 2:1-2)
22Tra oedd yn byw yno, dyma Reuben yn cysgu gyda Bilha, partner#35:22 partner Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. ei dad. A daeth Israel i glywed am y peth.
Roedd gan Jacob un deg dau o feibion:
23Meibion Lea: Reuben (mab hynaf Jacob), Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.
24Meibion Rachel: Joseff a Benjamin.
25Meibion Bilha, morwyn Rachel: Dan a Nafftali.
26Meibion Silpa, morwyn Lea: Gad ac Asher.
Dyma’r meibion gafodd eu geni i Jacob yn Padan-aram.
Isaac yn marw
27Felly daeth Jacob yn ôl at ei dad Isaac i Mamre, yn Ciriath-arba (sef Hebron). Dyna ble roedd Abraham ac Isaac wedi bod yn byw fel mewnfudwyr. 28Roedd Isaac yn 180 oed 29pan fuodd farw yn hen ddyn, a mynd at ei hynafiaid. A dyma’i feibion Esau a Jacob yn ei gladdu.

Dewis Presennol:

Genesis 35: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda