Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 20

20
Abraham yn twyllo Abimelech
1Symudodd Abraham i’r de i gyfeiriad y Negef, a buodd yn byw rhwng Cadesh a Shwr. Pan oedd yn crwydro am gyfnod yn ardal Gerar 2dwedodd wrth bobl mai ei chwaer oedd Sara, ei wraig. A dyma Abimelech, brenin Gerar, yn anfon amdani i’w chymryd iddo’i hun.
3Ond dyma Duw yn siarad ag Abimelech mewn breuddwyd un noson, a dweud wrtho, “Ti’n mynd i farw am gymryd y wraig yma, achos mae hi’n wraig briod.” 4Doedd Abimelech ddim wedi cysgu gyda hi ar y pryd, ac felly dwedodd, “Meistr, fyddet ti’n dinistrio pobl sy’n ddieuog? 5Roedd Abraham wedi dweud mai ei chwaer e oedd hi. Ac roedd hithau’n dweud mai ei brawd hi oedd Abraham. Rôn i’n gweithredu’n gwbl ddiniwed.”
6A dyma Duw yn ei ateb, “Ie, dw i’n gwybod dy fod ti’n ddiniwed. Fi gadwodd di rhag pechu yn fy erbyn. Wnes i ddim gadael i ti ei chyffwrdd hi. 7Felly, rho’r wraig yn ôl i’w gŵr. Mae e’n broffwyd. Bydd e’n gweddïo drosot ti, a chei di fyw. Ond os nad wyt ti’n fodlon mynd â hi yn ôl, rhaid i ti ddeall y byddi di a dy bobl yn marw.”
8Felly yn gynnar y bore wedyn dyma Abimelech yn galw’i swyddogion i gyd. Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, ac roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. 9Yna galwodd am Abraham a dweud wrtho, “Pam wyt ti wedi gwneud hyn i ni? Ydw i wedi gwneud rhywbeth o’i le i ti? Pam wyt ti wedi achosi i mi a’m pobl bechu mor ofnadwy? Ddylai neb fy nhrin i fel yma.” 10A gofynnodd i Abraham, “Beth oeddet ti’n feddwl roeddet ti’n ei wneud?” 11A dyma Abraham yn ateb, “Doeddwn i ddim yn meddwl fod unrhyw un yn addoli Duw yma. Rôn i’n meddwl y byddech chi’n siŵr o’m lladd i er mwyn cael fy ngwraig. 12Ond yn digwydd bod, mae’n berffaith wir ei bod hi’n chwaer i mi. Mae gynnon ni’r un tad, ond dim yr un fam. Felly dyma fi’n ei phriodi hi. 13Pan wnaeth Duw i mi adael cartref fy nhad, dwedais wrthi, ‘Dw i am i ti addo rhywbeth i mi. Ble bynnag awn ni, dywed wrth bobl ein bod ni’n frawd a chwaer.’”
14Wedyn dyma Abimelech yn rhoi defaid ac ychen, caethweision a chaethferched i Abraham. A rhoddodd ei wraig Sara yn ôl iddo hefyd. 15Wedyn dwedodd wrtho, “Cei fyw ble bynnag rwyt ti eisiau yn fy ngwlad i.” 16A dwedodd wrth Sara, “Dw i’n rhoi mil o ddarnau arian i dy ‘frawd’ di. Dw i’n ei roi yn iawndal am bopeth sydd wedi digwydd i ti. Bydd pawb yn gweld wedyn dy fod ti heb wneud dim byd o’i le.”
17Yna dyma Abraham yn gweddïo ar Dduw, a dyma Duw yn iacháu Abimelech, a’i wraig a’r caethferched eraill yn ei harîm, fel eu bod nhw’n gallu cael plant eto. 18(Roedd yr ARGLWYDD wedi stopio’r merched i gyd rhag cael plant, am fod Abimelech wedi cymryd Sara, gwraig Abraham.)

Dewis Presennol:

Genesis 20: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda