Roedd gan Lot, oedd yn teithio gydag Abram, ddefaid a gwartheg a phebyll hefyd. Doedd dim digon o borfa a dŵr iddyn nhw fyw gyda’i gilydd, am fod gan y ddau gymaint o anifeiliaid. Ac roedd gweision Abram a gweision Lot yn cweryla drwy’r adeg. (Y Canaaneaid a’r Peresiaid oedd yn byw yn y wlad bryd hynny.) Felly dyma Abram yn dweud wrth Lot, “Da ti, gad i ni a’n gweision beidio ffraeo! Dŷn ni’n perthyn i’r un teulu! Edrych, mae’r wlad i gyd o dy flaen di. Beth am i ni wahanu? Dewis di ble wyt ti am fynd i fyw, a gwna i fynd i’r cyfeiriad arall.”
Darllen Genesis 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 13:5-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos