Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 20:1-17

Exodus 20:1-17 BNET

A dyma Duw yn dweud fel yma: “Fi ydy’r ARGLWYDD, eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi’n gaethweision. Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi. Paid cerfio eilun i’w addoli – dim byd sy’n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn. Paid plygu i lawr a’u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus. Dw i’n cosbi pechodau’r rhieni sy’n fy nghasáu i, ac mae’r canlyniadau’n gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth. Ond dw i’n dangos cariad di-droi’n-ôl am fil o genedlaethau at y rhai sy’n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i’n ddweud. Paid camddefnyddio enw’r ARGLWYDD dy Dduw. Fydda i ddim yn gadael i rywun sy’n camddefnyddio fy enw ddianc rhag cael ei gosbi. Cofia gadw’r dydd Saboth yn sbesial. Mae’n ddiwrnod cysegredig, gwahanol i’r lleill. Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud. Mae’r seithfed diwrnod i’w gadw yn Saboth i’r ARGLWYDD. Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma – ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith; dim hyd yn oed dy anifeiliaid nac unrhyw fewnfudwr sy’n aros gyda ti. Mewn chwe diwrnod roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd, y ddaear, y môr a phopeth sydd ynddyn nhw; wedyn dyma fe’n gorffwys ar y seithfed diwrnod. Dyna pam wnaeth Duw fendithio’r dydd Saboth, a’i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi’i gysegru. Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam, a byddi’n byw yn hir yn y wlad mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti. Paid llofruddio. Paid godinebu. Paid dwyn. Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun. Paid chwennych tŷ rhywun arall. Paid chwennych ei wraig, na’i was, na’i forwyn, na’i darw, na’i asyn, na dim byd sydd gan rywun arall.”