Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 13

13
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: 2“Rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi piau nhw.”
Gŵyl y Bara Croyw
3Dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Mae’r diwrnod yma, pan ddaethoch chi allan o’r Aifft, yn ddiwrnod i’w gofio. Roeddech chi’n gaethion yno, a dyma’r ARGLWYDD yn defnyddio ei nerth i’ch rhyddhau chi. Ond peidiwch bwyta bara wedi’i wneud gyda burum pan fyddwch chi’n dathlu. 4Dyma’r diwrnod, ym mis Abib, pan aethoch chi allan. 5A phan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i’r wlad wnaeth e addo ei rhoi i’ch hynafiaid chi – gwlad y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Hefiaid, a Jebwsiaid; gwlad ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo – byddwch yn dathlu ar y mis yma bob blwyddyn. 6Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara sydd heb furum ynddo, yna ar y seithfed diwrnod cadw gŵyl i’r ARGLWYDD. 7Rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo am saith diwrnod. Does dim bara wedi’i wneud gyda burum, na hyd yn oed y burum ei hun, i fod yn unman. 8Yna dych chi i esbonio i’ch plant, ‘Dŷn ni’n gwneud hyn i gofio beth wnaeth yr ARGLWYDD droson ni pan ddaethon ni allan o’r Aifft.’ 9Bydd fel arwydd ar eich llaw neu farc ar eich talcen, yn eich atgoffa chi i siarad am beth roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddysgu i chi. Roedd e wedi defnyddio ei nerth i ddod â chi allan o’r Aifft. 10Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn ar yr amser iawn bob blwyddyn.
Cysegru’r mab cyntaf i gael ei eni
11“Pan fydd yr ARGLWYDD wedi dod â chi i wlad y Canaaneaid, fel gwnaeth e addo i’ch hynafiaid chi, 12rhaid i fab cyntaf pob gwraig, a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, gael eu cysegru i mi. Fi, yr ARGLWYDD sydd biau nhw. 13Gellir prynu’n ôl pob asyn cyntaf i gael ei eni drwy roi oen neu fyn gafr yn ei le. Os nad ydy e’n cael ei brynu, rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf. A rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu’n ôl hefyd. 14Yn y dyfodol, pan fydd eich plant yn gofyn, ‘Beth ydy ystyr hyn?’, Dych chi i’w hateb, ‘Yr ARGLWYDD wnaeth ddefnyddio ei nerth i ddod â ni allan o’r Aifft, lle roedden ni’n gaethion. 15Roedd y Pharo yn gwrthod ein gollwng ni’n rhydd, felly dyma’r ARGLWYDD yn lladd pob mab hynaf a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni. Dyna pam dŷn ni’n aberthu pob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni i’r ARGLWYDD. Ond dŷn ni’n prynu’n ôl pob mab cyntaf i gael ei eni.’ 16Bydd fel arwydd ar eich llaw neu rywbeth yn cael ei wisgo ar y talcen, i’ch atgoffa fod yr ARGLWYDD wedi defnyddio ei nerth i ddod â ni allan o’r Aifft.”
Y daith at y Môr Coch
17Pan wnaeth y Pharo adael i’r bobl fynd, wnaeth Duw ddim eu harwain nhw i wlad y Philistiaid, er mai dyna fyddai’r ffordd gyntaf. Doedd gan Dduw ddim eisiau i’r bobl newid eu meddyliau a mynd yn ôl i’r Aifft pan oedd y Philistiaid yn bygwth rhyfela yn eu herbyn nhw. 18Felly dyma Duw yn mynd â’r bobl drwy’r anialwch at y Môr Coch.#13:18 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”. Aeth pobl Israel allan o’r Aifft fel byddin yn ei rhengoedd.
19Dyma Moses yn mynd ag esgyrn Joseff gyda nhw. Roedd Joseff wedi gwneud i bobl Israel addo, “Dw i’n gwybod y bydd Duw yn gofalu amdanoch chi. Dw i eisiau i chi fynd â’m hesgyrn i gyda chi o’r lle yma.”
20Dyma nhw’n gadael Swccoth ac yn gwersylla yn Etham wrth ymyl yr anialwch. 21Roedd yr ARGLWYDD yn arwain y ffordd mewn colofn o niwl yn ystod y dydd, a cholofn o dân yn y nos. Felly roedden nhw’n gallu teithio yn y dydd neu’r nos. 22Roedd y golofn o niwl gyda nhw bob amser yn y dydd, a’r golofn o dân yn y nos.

Dewis Presennol:

Exodus 13: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda