Pan ddwedodd Hathach wrth Mordecai beth oedd Esther yn ei ddweud, dyma Mordecai yn anfon yr ateb yma yn ôl: “Paid meddwl am funud y byddi di’n osgoi cael dy ladd fel pob Iddew arall am dy fod ti’n byw yn y palas. Os byddi di’n gwrthod dweud dim yr adeg yma, bydd rhywbeth yn digwydd o gyfeiriad arall i achub ac amddiffyn yr Iddewon, ond byddi di a theulu dy dad yn marw. Pwy ŵyr? Falle mai dyma’n union pam wyt ti wedi dod yn rhan o’r teulu brenhinol ar yr adeg yma!” Yna dyma Esther yn anfon ateb yn ôl at Mordecai: “Wnei di gasglu’r Iddewon sy’n byw yn Shwshan at ei gilydd a’u cael nhw i ymprydio drosto i? Peidiwch bwyta nac yfed am dri diwrnod, ddydd na nos. Bydda i a’r morynion sydd gen i yn ymprydio hefyd. Wedyn gwna i fynd i weld y brenin, er fod hynny’n golygu torri’r gyfraith. Dw i’n barod i farw os oes rhaid.” Felly dyma Mordecai yn mynd ati i wneud popeth fel roedd Esther wedi dweud wrtho.
Darllen Esther 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Esther 4:12-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos