Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 6

6
Dewis y saith
1Ond wrth i nifer y bobl oedd yn credu dyfu, cododd problemau. Roedd y rhai oedd o gefndir Groegaidd yn cwyno am y rhai oedd yn dod o gefndir Hebreig. Roedden nhw’n teimlo fod eu gweddwon nhw yn cael eu hesgeuluso gan y rhai oedd yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd bob dydd. 2Felly dyma’r Deuddeg yn galw’r credinwyr i gyd at ei gilydd. “Cyhoeddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw ydy’n gwaith ni, dim trefnu’r ffordd mae bwyd yn cael ei ddosbarthu” medden nhw. 3“Felly frodyr a chwiorydd, dewiswch saith dyn o’ch plith – dynion mae pawb yn eu parchu ac yn gwybod eu bod yn llawn o’r Ysbryd Glân – dynion sy’n gallu gwneud y gwaith. Dŷn ni’n mynd i roi’r cyfrifoldeb yma iddyn nhw. 4Wedyn byddwn ni’n gallu rhoi’n sylw i gyd i weddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw.”
5Roedd y syniad yma’n plesio pawb, a dyma nhw’n dewis y rhain: Steffan (dyn oedd yn credu’n gryf ac yn llawn o’r Ysbryd Glân), a Philip, Procorws, Nicanor, Timon, Parmenas, a Nicolas o Antiochia (oedd ddim yn Iddew, ond wedi troi at y grefydd Iddewig, a bellach yn dilyn y Meseia). 6Dyma nhw’n eu cyflwyno i’r apostolion, ac ar ôl gweddïo dyma’r apostolion yn eu comisiynu nhw ar gyfer y gwaith drwy roi eu dwylo arnyn nhw.
7Roedd neges Duw yn mynd ar led, a nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn tyfu’n gyflym. Roedd nifer fawr o’r offeiriaid Iddewig yn dilyn y Meseia hefyd.
Steffan yn cael ei arestio
8Roedd Steffan yn ddyn oedd â ffafr Duw arno a nerth Duw ar waith yn ei fywyd. Roedd yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl, oedd yn dangos fod Duw gydag e. 9Ond dyma rhai o aelodau’r synagog oedd yn cael ei galw’n ‘Synagog y Dynion Rhydd’ yn codi yn ei erbyn. Iddewon o Cyrene ac Alecsandria oedden nhw, yn ogystal â rhai o Cilicia ac o dalaith Asia. Dyma nhw’n dechrau dadlau gyda Steffan, 10ond doedden nhw ddim yn gallu ateb ei ddadleuon. Roedd e mor ddoeth, ac roedd yr Ysbryd Glân yn amlwg yn siarad drwyddo.
11Felly dyma nhw’n defnyddio tacteg wahanol, ac yn perswadio rhyw ddynion i ddweud celwydd amdano: “Dŷn ni wedi clywed Steffan yn dweud pethau cableddus am Moses ac am Dduw.” 12Wrth gwrs achosodd hyn stŵr ymhlith y bobl a’r henuriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith. Dyma nhw’n arestio Steffan ac roedd rhaid iddo ymddangos o flaen y Sanhedrin. 13Dyma rai yn dweud celwydd wrth roi tystiolaeth ar lw: “Mae’r dyn yma o hyd ac o hyd yn dweud pethau yn erbyn y deml ac yn erbyn Cyfraith Moses. 14Dŷn ni wedi’i glywed yn dweud y bydd yr Iesu yna o Nasareth yn dinistrio’r deml yma ac yn newid y traddodiadau wnaeth Moses eu rhoi i ni.”
15Dyma pob un o aelodau’r Sanhedrin yn troi i syllu ar Steffan. Roedd ei wyneb yn disgleirio fel wyneb angel.

Dewis Presennol:

Actau 6: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda