Unwaith eto dyma Dafydd yn casglu milwyr gorau Israel at ei gilydd. Roedd yna dri deg mil ohonyn nhw. Dyma nhw’n mynd gyda Dafydd i Baäla yn Jwda i nôl Arch Duw. Roedd yr enw ‘Arch Duw’ yn cyfeirio at yr ARGLWYDD hollbwerus, sy’n eistedd ar ei orsedd uwchben y cerwbiaid. Dyma nhw’n rhoi Arch Duw ar gert newydd a’i symud hi o dŷ Abinadab, oedd ar ben bryn. Roedd Wssa ac Achïo, meibion Abinadab, yn arwain y cert – Wssa wrth ymyl yr Arch, ac Achïo’n cerdded o’i blaen. Ac roedd Dafydd a phobl Israel i gyd yn dathlu’n llawn hwyl o flaen yr ARGLWYDD, ac yn canu i gyfeiliant pob math o offerynnau. Roedd ganddyn nhw delynau a nablau, drymiau, castanetau a symbalau. Pan gyrhaeddon nhw lawr dyrnu Nachon, dyma’r ychen yn baglu, a dyma Wssa yn estyn ei law a gafael yn Arch Duw. Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gydag Wssa am y fath amarch. Cafodd ei daro’n farw yn y fan a’r lle wrth ymyl Arch Duw.
Darllen 2 Samuel 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Samuel 6:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos