Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Samuel 23

23
Geiriau olaf Dafydd
1Dyma eiriau olaf Dafydd:
“Neges Dafydd fab Jesse.
Neges yr un gafodd ei godi’n arweinydd,
a’i eneinio gan Dduw Jacob.
Neges hoff ganwr Israel.
2Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD yn siarad trwof fi;
ei neges e oeddwn i’n ei rhannu.
3Mae Duw Israel wedi siarad,
a dyma mae Craig Israel yn ei ddweud:
‘Mae’r un sy’n llywodraethu’n deg,
gan roi parch i Dduw,
4fel golau haul ar fore braf digwmwl
yn gwneud i’r glaswellt dyfu o’r ddaear
a sgleinio ar ôl y glaw.’
5Ie, dyna sut mae Duw’n gweld fy nheulu!
Mae wedi gwneud ymrwymiad am byth i mi.
Mae’r cwbl wedi’i drefnu – mae’n siŵr o ddigwydd!
Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i mi lwyddo
ac yn dod â’r cwbl dw i eisiau yn wir.
6Ond mae dynion drwg fel drain
sy’n dda i ddim ond i’w torri i lawr.
Does neb yn gafael ynddyn nhw â’u dwylo,
7dim ond gydag arf haearn neu goes gwaywffon.
Mae tân yn eu llosgi’n ulw yn y fan a’r lle!”
Milwyr dewr Dafydd
(1 Cronicl 11:10-41)
8Dyma enwau milwyr dewr Dafydd:
Iashofam#23:8 fel 1 Cronicl 11:11; HebraegIoshef-bashefet. LXX Jeshbaal. yr Hachmoniad oedd pennaeth ‘Y Tri’. Roedd e wedi lladd wyth gant o ddynion gyda’i waywffon mewn un frwydr.
9Yna’r nesa ato fe o’r ‘Tri Dewr’ oedd Eleasar fab Dodo o deulu Achoach. Roedd e gyda Dafydd yn herio’r Philistiaid pan wnaethon nhw gasglu i ryfel yn Pas-dammîm. Roedd gweddill byddin Israel wedi ffoi, 10ond dyma fe’n sefyll ei dir ac ymladd yn erbyn y Philistiaid. Roedd ei law wedi blino gymaint, ond wnaeth e ddim gollwng ei gleddyf. Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo y diwrnod hwnnw. Yna daeth y fyddin yn ôl, ond dim ond i ddwyn pethau oddi ar y cyrff!
11Y nesaf wedyn oedd Samma fab Age o deulu Harar. Un tro roedd byddin y Philistiaid wedi casglu yn Lechi lle roedd cae o ffacbys. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen y Philistiaid, 12ond roedd Samma wedi sefyll ei dir yng nghanol y cae, i’w amddiffyn. Roedd wedi ymosod ar y Philistiaid, a dyma’r ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth fawr iddo.
13Un tro, adeg y cynhaeaf, aeth tri o’r ‘Tri deg’ i lawr at Dafydd i Ogof Adwlam.#23:13 Rhyw ddeuddeg milltir i’r de-orllewin o Bethlehem. Roedd mintai o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn Reffaïm.#23:13 Reffaïm Dyffryn oedd ryw 3 milltir i’r de-orllewin o Jerwsalem. 14Roedd Dafydd yn y gaer ar y pryd, tra oedd prif wersyll garsiwn y Philistiaid yn Bethlehem. 15Un diwrnod roedd syched ar Dafydd, a dyma fe’n dweud, “Mor braf fyddai cael diod o ddŵr o’r ffynnon sydd wrth giât Bethlehem!” 16Felly dyma’r ‘Tri Dewr’ yn mynd drwy ganol gwersyll y Philistiaid a chodi dŵr o’r ffynnon wrth giât Bethlehem. Dyma nhw’n dod â’r dŵr i Dafydd, ond gwrthododd ei yfed. A dyma fe’n ei dywallt ar lawr yn offrwm i’r ARGLWYDD, 17a dweud, “ARGLWYDD, allwn i byth wneud y fath beth! Byddai fel yfed gwaed y dynion wnaeth fentro’u bywydau i’w nôl.” Roedd yn gwrthod ei yfed. (Dyna un enghraifft o beth wnaeth y ‘Tri Dewr’.)
18Abishai, brawd Joab a mab Serwia, oedd pennaeth y ‘Tri deg’. Roedd e wedi lladd tri chant o ddynion gyda’i waywffon un tro. Roedd e’n enwog fel y Tri. 19A dweud y gwir, roedd yn fwy enwog na nhw, a fe oedd eu capten nhw. Ond doedd e ddim yn un o’r ‘Tri’.
20Roedd Benaia fab Jehoiada o Cabseël#23:20 Cabseël Ar ffin ddeheuol Jwda, heb fod yn bell o Edom (cf. Josua 15:21). yn ddyn dewr hefyd. Roedd e wedi gwneud llawer o bethau dewr. Roedd wedi lladd dau o arwyr Moab. Roedd wedi mynd i lawr a lladd llew oedd wedi syrthio i bydew ar ddiwrnod o eira. 21Roedd hefyd wedi lladd cawr o ddyn o’r Aifft. Roedd gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law, ond dim ond pastwn oedd gan Benaia. Dyma fe’n ymosod arno, dwyn y waywffon oddi ar yr Eifftiwr, a’i ladd gyda hi. 22Pethau fel yna wnaeth Benaia fab Jehoiada yn enwog fel y ‘Tri Dewr’. 23Roedd y Tri deg arwr yn meddwl yn uchel ohono, er nad oedd yn un o’r ‘Tri’. A dyma Dafydd yn ei wneud yn bennaeth ar ei warchodwyr personol.
24Yna gweddill y ‘Tri deg’ oedd:
Asahel, brawd Joab,
Elchanan fab Dodo o Bethlehem,
25Shamma o Charod,
Elicâ o Charod,
26Chelets o Pelet,
Ira fab Iccesh o Tecoa,
27Abieser o Anathoth,
Mefwnnai o Chwsha,
28Salmon o deulu Achoach,
Maharai o Netoffa,
29Cheleb fab Baana o Netoffa,
Itai fab Ribai o Gibea yn Benjamin,
30Benaia o Pirathon,
Hidai o Wadi Gaash,
31Abi-albon o Arba,
Asmafeth o Bachwrîm,
32Eliachba o Shaalbon,
Meibion Iashen,
Jonathan fab 33Shamma o Harar,
Achîam fab Sharar o Harar,
34Eliffelet fab Achasbai o Maacha,
Eliam fab Achitoffel o Gilo,
35Chetsrai o Carmel,#23:35 Carmel Pentref tua naw milltir i’r de o Hebron (nid y Carmel yng ngogledd Israel).
Paarai o Arba,
36Igal fab Nathan o Soba,
Bani o Gad,
37Selec o Ammon,
Nachrai o Beëroth (oedd yn cario arfau Joab, mab Serwia),
38Ira yr Ithriad,
Gareb yr Ithriad,
39ac Wreia yr Hethiad.
(Tri deg saith i gyd.)

Dewis Presennol:

2 Samuel 23: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda