Ond dyma Heseceia yn troi at y wal ac yn gweddïo, “O ARGLWYDD, plîs cofia sut dw i wedi byw yn hollol ffyddlon i ti. Dw i bob amser wedi gwneud beth oedd yn dy blesio di.” Roedd yn beichio crio. Cyn bod Eseia wedi gadael iard ganol y palas, dyma’r ARGLWYDD yn siarad ag e. “Dos yn ôl i ddweud wrth Heseceia, arweinydd fy mhobl, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud, Duw Dafydd dy dad: Dw i wedi gwrando ar dy weddi di, ac wedi gweld dy ddagrau di. Dw i’n mynd i dy iacháu di. Y diwrnod ar ôl yfory byddi’n mynd i deml yr ARGLWYDD. Dw i’n mynd i roi un deg pump mlynedd arall i ti. Dw i’n mynd i dy achub di a’r ddinas yma o afael brenin Asyria. Bydda i’n amddiffyn y ddinas yma, er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’”
Darllen 2 Brenhinoedd 20
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 2 Brenhinoedd 20:2-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos